Bydd adolygiad o’r newydd i farwolaeth yr asiant MI6 o Ynys Môn, Gareth Williams, ar ôl i Heddlu Llundain gyhoeddi bod tystiolaeth newydd wedi cael ei darganfod.
Yn 2012, dywedodd crwner yn y cwest ei bod yn debyg fod Gareth Williams wedi cael ei ladd yn anghyfreithlon.
Ond flwyddyn yn ddiweddarach, daeth adolygiad gan Heddlu Llundain i’r casgliad ei fod e wedi marw trwy ddamwain, yn hytrach na chael ei lofruddio.
Mae’r Sunday Times bellach wedi adrodd bod gwyddonydd yn credu bod datblygiadau proffilio DNA yn golygu y gallai bellach fod yn bosibl darganfod gwybodaeth newydd o un darn o wallt gafodd ei ddarganfod yn y fflat lle cafodd Gareth Williams ei ganfod yn farw.
“Mae yna broses adolygu ar gyfer ymchwiliadau lle mae gwybodaeth newydd a/neu gyfleoedd fforensig yn cael eu hystyried,” meddai llefarydd ar ran Heddlu Llundain.
“Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw adolygiad fforensig wedi’i gomisiynu.
“Fodd bynnag, mae’r MPS yn adolygu’r wybodaeth newydd hon a bydd yn asesu a oes unrhyw gyfleoedd ymchwilio newydd yn yr achos hwn.”
Ymateb y teulu
Mewn datganiad a gafodd ei ddarllen gan gyfreithiwr y teulu yn dilyn y cwest i’w farwolaeth, dywedodd y teulu eu bod nhw’n “hynod o siomedig” ynghylch “amharodrwydd a methiant” y gwasanaethau cudd i ddatgelu gwybodaeth oedd yn berthnasol i’r ymchwiliad.
Roedden nhw hefyd wedi beirniadu “diffygion” yr ymchwiliad gan uned gwrth-frawychiaeth SO15 Heddlu Llundain wrth MI6, ac wedi galw ar bennaeth Scotland Yard i ystyried sut y gall yr ymchwiliad barhau yn sgil hynny.
Roedd y teulu’n grediniol bod casgliadau’r crwner yn 2012 yn gywir.
“Rydym o’r farn, ar sail y ffeithiau sydd ar gael ar hyn o bryd, fod dyfarniad y crwner yn adlewyrchu amgylchiadau marwolaeth Gareth yn gywir,” meddai datganiad gan y teulu ar y pryd.
Ac yn wir, roedd y Dirprwy Gomisiynydd Cynorthwyol, Martin Hewitt, wedi cydnabod fod y crwner wedi gwneud “y casgliad rhesymegol ei bod hi’n fwy tebygol bod rhywun arall yn rhan o farwolaeth Gareth ar ôl astudio’r holl dystiolaeth oedd ar gael bryd hynny”.
Ond dywedodd Hamish Campbell, y Ditectif a arweiniodd yr ymchwiliad cychwynnol, wrth y Sunday Times ei fod yn amau bod marwolaeth Gareth Williams yn gysylltiedig â’i fywyd preifat yn hytrach na’i waith.