Chwaer Gareth Williams, Cerri Subbe
Mae’r crwner yn y cwest i farwolaeth yr ysbïwr o Fôn wedi dweud ei fod yn debyg bod Gareth Williams wedi cael ei ladd yn anghyfreithlon ond mae’n bosib na fydd yr achos yn cael ei ddatrys.

Dywedodd Dr Fiona Wilcox heddiw ei bod hi’n bendant bod rhywun arall wedi cloi Gareth Williams yn y bag lle cafwyd hyd i’w gorff yn y bath yn ei fflat yn Pimlico, Llundain ym mis Awst 2010.

Ac mae hi wedi beirniadu’r ymchwiliad sydd wedi para 21 mis gan ddweud ei bod yn debygol y bydd cwestiynau o hyd am ddirgelwch ei farwolaeth.

Mae hi wedi cofnodi rheithfarn naratif i’w farwolaeth.


Gareth Williams
Hynod siomedig

Mae teulu Gareth Williams wedi beirniadu methiant MI6 i wneud ymholiadau amdano yn gynt pan fethodd â dychwelyd i’r gwaith ar ôl bod ar wyliau.

Mewn datganiad gafodd ei ddarllen gan gyfreithiwr y teulu yn dilyn y cwest i’w farwolaeth, dywedodd y teulu eu bod nhw yn “hynod o siomedig” am “amharodrwydd a methiant” y gwasanaethau cudd i ryddhau gwybodaeth berthnasol i’r ymchwiliad.

Maen nhw hefyd wedi beirniadu “diffygion” yr ymchwiliad gan uned gwrthderfysgaeth Heddlu Metropolitan  SO15 i MI6 ac wedi galw ar bennaeth Scotland Yard i ystyried sut gall yr ymchwiliad barhau yn sgil hynny.

Yn y datganiad, darllenodd y cyfreithiwr Robyn Williams: “Mae colli mab a brawd ar unrhyw adeg yn drasiedi.

“Mae colli mab a brawd yn y fath amgylchiadau sydd wedi cael eu hamlinellu yn ystod y cwest wedi ychwanegu at y drasiedi.

“Mae ein galar wedi dwysau o ganlyniad i fethiant ei gyflogwyr yn MI6 i wneud unrhyw ymholiadau amdano, rhywbeth fyddai unrhyw gyflogwr wedi ei wneud.”

Mae’r teulu wedi disgrifio’r ysbïwr fel “mab a brawd arbennig iawn” a fydd “yn cael ei drysori am byth.”

Ar ôl diolch i deulu, ffrindiau a chyd-weithwyr Gareth Williams am eu cefnogaeth, fe ofynnodd y teulu am gael llonydd i alaru yn dilyn rheithfarn y crwner heddiw.