Mae adolygiad gan Heddlu llundain i farwolaeth ysbïwr M16 o ogledd Cymru wedi dod i’r canlyniad ei fod wedi marw mewn damwain, yn hytrach na chael ei lofruddio.

Bu farw Gareth Williams, 31, ym mis Awst 2010 a chafodd ei gorff ei ddarganfod mewn bag mewn bath yn ei gartref yn Pimlico ynghanol Llundain.

Roedd y bag North Face wedi ei gau o’r tu allan â chlo chlap.

Mae heddlu sydd wedi bod yn ymchwilio i’w farwolaeth wedi dweud ei fod yn “debygol” o fod yn ddamweiniol.

Anghyfreithlon

Y llynedd, daeth crwner i’r farn fod Gareth Williams o Gaergybi  wedi ei “ladd yn anghyfreithlon”.

Ond mae awdur yr adroddiad diweddar, y Dirprwy Gomisiynydd Martin Hewitt o Heddlu Llundain, yn anghytuno gyda hyn gan ddweud ei bod hi’n debygol nad oedd neb arall yn bresennol pan fu farw’r ysbïwr.

Er hyn, fe ddywedodd DAC Hewitt nad oedd tystiolaeth fod y swyddog MI6 wedi bwriadu lladd ei hun nac ychwaith bod ei farwolaeth yn gysylltiedig â’i waith.

Teulu

Wrth ymateb i ganlyniad yr adroddiad, mae teulu Gareth Williams wedi dweud eu bod wedi eu “siomi” ac yn dal i gredu fod rhywun wedi llofruddio’r ysbïwr.