Mae nifer y di-waith yng Nghymru wedi gostwng  4,000 yn ôl y ffigurau diweddaraf.

Yn ôl ffigurau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) bu cynnydd o 14,000 wedi bod yn nifer y bobl sy’n gweithio dros y chwarter diwethaf.

Mae nifer y bobl mewn gwaith yng Nghymru nawr ar ei lefel uchaf erioed ac wedi cynyddu 1.6% yn y flwyddyn ddiwethaf o’i gymharu â chynnydd o 0.6% yng ngweddill Prydain.

Hefyd mae nifer y bobl sy’n hawlio budd-dal diweithdra wedi gostwng 1,800 ers mis Medi eleni, a 12,800 yn is nag ym mis Hydref y llynedd.

Bu gostyngiad o 1,000 hefyd yn nifer y bobl ifainc rhwng 16 a 24 oed sy’n ddi-waith.

Gwelliant cryf

Dywedodd Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru, Edwina Hart: “Mae’r ffigurau a gyhoeddwyd heddiw’n dangos gwelliant cryf yn y farchnad lafur yng Nghymru, sydd unwaith eto wedi perfformio’n well na gweddill Prydain.

“Fodd bynnag, er gwaethaf y ffigurau, mae’n amlwg bod amodau yn parhau i fod yn anodd. Bydd ein ffocws yn parhau i fod ar gefnogi’r twf economaidd a brwydro dros bob swydd, bob cyfle i allforio a phob buddsoddiad.”

‘Diolch i Lywodraeth Prydain’

Dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol David Jones: “Mae’r cyfeiriad addawol yr ydym yn ei weld yn y farchnad lafur yng Nghymru yn arwydd cryf bod economi’r yn gwella’n sydyn.

“Mae hyn oherwydd cynllun economaidd y Llywodraeth sy’n amlwg yn gweithio. Mae hyder busnesau ar draws Prydain hefyd yn uwch nag erioed, a’r uchaf mae wedi bod yng Nghymru ers 2009.

“Mae gan sector fusnes uchelgeisiol a ffyniannus yn rhan allweddol i’w chwarae yn hyn, ac mae’r Llywodraeth hon yn parhau i roi’r mesurau mewn lle i sicrhau bod y momentwm yn cael ei gynnal.

‘Tipyn o ffordd i fynd’

Wrth ymateb i’r ffigurau dywedodd llefarydd busnes y Democratiaid Rhyddfrydol Eluned Parrott bod y “ffigurau’n symud i’r cyfeiriad iawn ond mae dipyn o ffordd i fynd eto.

“Yr her fawr sy’n wynebu’r ddwy lywodraeth yw mynd i’r afael â diweithdra ymhlith pobl ifanc sy’n parhau’n ystyfnig o uchel ac sy’n rhywbeth mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru ei ddatrys ar fyrder.”

Ffigurau Prydain

Ym Mhrydain mae nifer y bobl sy’n ddi-waith wedi cyrraedd ei lefel isaf mewn tair blynedd.

Bu gostyngiad mawr yn nifer y bobl sy’n hawlio budd-dal diweithdra – gostyngiad 41,700 i 1.31 million ym mis Hydref.