Mae tri Parc Cenedlaethol Cymru yn cyfrannu £1 biliwn tuag at economi’r wlad yn ôl adroddiad sydd wedi ei gyhoeddi heddiw.
Y parciau sy’n gyfrifol am 20% o dir Cymru, ac maen nhw’n denu 12 miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn – 2.26 o ymwelwyr bob diwrnod, o’i gymharu â 1.59 o ymwelwyr ym Mharciau Cenedlaethol yn Lloegr a’r Alban.
Yn yr arolwg ar effaith economaidd y parciau, daeth i’r amlwg fod Parc Cenedlaethol Eryri, Bannau Brycheiniog a Sir Benfro yn cyflogi 31,000 o weithwyr – 38% yn swyddi sy’n ymwneud â’r amgylchedd.
‘Parciau’n gaffaeliad’
Cafodd yr adroddiad ei gomisiynu ar y cyd gan y tri Parc Cenedlaethol yng Nghymru, Llywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru a’i gyflwyno gan y gwasanaeth amgylcheddol, Arup.
Mae Aelodau’r Cynulliad, gan gynnwys y Gweinidog John Griffiths wedi dangos cefnogaeth tua at waith y parciau. Dywedodd:
“Mae’r adroddiad yn profi’n glir faint o gaffaeliad yw’r parciau cenedlaethol i Gymru a’i heconomi.”
Yn siarad ar ran y parciau, dywedodd Aneurin Phillips, Prif Weithredwr Parc Cenedlaethol Eryri:
“Yn wahanol i barciau cenedlaethol yn America, sy’n eithaf anghysbell, mae parciau Cymru yn gymunedau gyda dros 80,000 o bobol yn byw ynddynt ac yn cyflogi tua 30,000 o bobol.
“Mae’r adroddiad wedi dangos yn glir iawn faint o fudd mae’r parciau yn ei roi i economi Cymru ac rydw i’n falch iawn hefo hyn.”