Mae Chris Summers, y cogydd profiadol o Gaernarfon, wedi cyhoeddi ei fod yn agor bwyty newydd sbon, Y Crochan, yng nghanol y dref.
Ei fwriad ydi cynnig bwydydd traddodiadol Cymreig a’u plethu ag elfennau cyfoes a modern er mwyn darparu profiad bwyta cwbl unigryw i’w gwsmeriaid.
Bu’n wyneb cyfarwydd i bobol yr ardal leol, wedi iddo sefydlu menter gymdeithasol Porthi Pawb ar gychwyn y cyfnod clo er mwyn darparu prydau poeth i’r henoed a phobol fregus yr ardal.
Erbyn hyn, mae’r brodor o Gaernarfon yn edrych ymlaen at ei sialens newydd ac wrth siarad â golwg360, bu’n trafod ei weledigaeth a’i obeithion ar gyfer y fenter.
“Cogydd oeddwn i eisiau bod”
Eglura fod ei ddiddordeb mewn coginio yn mynd yn ôl i’w blentyndod, o dan ddylanwad ei deulu wrth dyfu i fyny yng Nghaernarfon.
“Wnes i ddechrau coginio ugain mlynedd yn ôl pan on i’n helpu Mam allan yng Nghaffi Maes,” meddai.
“Doeddwn i ddim yn ddisgybl da iawn yn yr ysgol ac roeddwn i’n codi dipyn bach o helynt bob hyn a hyn!
“Felly be’ oedd Mam yn ei wneud fel cosb oedd cael fi i helpu allan, golchi llestri a ballu… ond be’ doedd hi ddim yn sylwi oedd fy mod i wrth fy modd!
“Dyma’r golchi llestri yn symud i ‘Chris dora hwn yn y microwave, Chris dora hwn o dan y gril’ ac roeddwn i’n gwybod adeg yna mai cogydd oeddwn i eisiau bod.”
Ers hynny, treuliodd gyfnod yn gweithio ym mwytai’r cogydd enwog Gordon Ramsay yn Llundain a chyn y pandemig, bu’n gweithio fel prif gogydd yn yr Oyster Catcher yn Rhosneigr.
“Dw i eisiau dal dipyn bach o’r teimlad hudolus”
Dywed na fyddai wedi ystyried agor bwyty yn unrhyw le arall ac eithrio’i dref enedigol.
Gyda’r bwyty wedi ei leoli ar stryd Twll yn y Wal ar gyrion y castell, eglura fod naws hanesyddol yr ardal wedi dylanwadu’n gryf ar ei weledigaeth.
“Dw i eisiau dal dipyn bach o’r teimlad hudolus sydd tu mewn i’r hen dref a’r teimlad hanesyddol yna yn y bwyty,” meddai.
“A beth sydd fwy hanesyddol na choginio ar hen grochan tu allan yng Nghymru? Felly dyna sut nes i benderfynu ar yr enw, does yna ddim enw gwell!”
Yr wythnos ddiwethaf, cyhoeddodd y fwydlen derfynol ar gyfer y bwyty, sy’n adlewyrchu ei weledigaeth o gyfuno’r hen a’r newydd.
“Dwi wedi bod yn gweithio lot hefo Amgueddfa Cymru blwyddyn ddiwethaf a gwneud arddangosfa fach iddyn nhw,” eglura, wrth drafod y broses o lunio’r fwydlen.
“Ac un o’r prydau wnes i iddyn nhw oedd lobscows sych, iau a bacon, a ffagots a phys ac mae’r rheini yn brydau traddodiadol iawn ond wedyn dwi’n trio rhoi modern twist arnyn nhw.”
“Be fyswn i’n licio gwneud ydi cynnig y profiad o allu bwyta bwyd o safon i bobl y dre, ella fysa ddim fel arfer yn gallu fforddio fo.
“Yn yr un ffordd dwi’n meddwl am Porthi Pawb,” meddai.
“Dydi bwyd ddim yn ecsgliwsif i bobol sy’n gallu fforddio fo.
“Mae bwyd i fod yna i bawb.”
“Ydw i’n gwneud y peth iawn?!”
Wrth drafod ei benderfyniad dewr i sefydlu busnes yng nghanol pandemig, dywed ei fod yn gwbl benderfynol o sicrhau bod y fenter yn llwyddiannus.
“Dwi wedi cael lot o bobol yn cwestiynu, ‘ydw i’n gwneud y peth iawn?!,” meddai.
“A dwi rili yn credu, i fi yn bersonol, does yna ddim amser gwell.
“Mae’r gefnogaeth mae pobol yn cael am gynnyrch lleol ar y funud yng Nghymru yn briliant a dwi’n teimlo bod y gefnogaeth dwi’n cael eniwe fel cogydd a drwy bob dim hefo Porthi Pawb – mae o’n syniad da i fi agor lle fy hun.”
Dywed fod yr ymateb lleol wedi bod yn “anhygoel”.
“Fedra i ddim egluro sut mae’r gefnogaeth wedi bod,” meddai.
O fewn llai na phythefnos, mae tudalen Facebook y bwyty newydd wedi denu bron i 2,000 o ddilynwyr.
Y bwriad ydi agor y bwyty yn rhannol er mwyn darparu gwasanaeth tecawê o fis nesaf ymlaen, yn y gobaith y bydd modd agor y drysau’n swyddogol wedi hynny yn dilyn cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru.
“Dwi’n gwybod fod o’n mynd i fod yn lot o waith ond dwi’n sbïo ar hyn hefo’r gobaith o gael y Michelin Star cyntaf yng Nghaernarfon,” meddai, wrth drafod ei gynlluniau ar gyfer y dyfodol.
“Mae’r profiad gen i, dw i yn gallu gwneud o, a dwi’n gwybod fod o’n mynd i ddigwydd.”