Mae Plaid Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi codiad cyflog i weithwyr gofal yng Nghymru a fyddai’n cyfateb i leiafswm o £10 yr awr.

Yn ôl Plaid Cymru, mae Mark Drakeford, prif weinidog Cymru, wedi gwrthod yr alwad hon – penderfyniad y maen nhw’n ei alw’n “siomedig”.

Yr wythnos ddiwethaf, galwodd Angela Rayner, dirprwy arweinydd y Blaid Lafur, ar Lywodraeth San Steffan i ymrwymo i isafswm cyflog o £10 yr awr i weithwyr gofal.

Yn ystod Sesiwn Holi’r Prif Weinidog heddiw (dydd Mawrth, Chwefror 23), galwodd Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, ar Mark Drakeford i ymrwymo i godiad cyflog i weithwyr gofal.

Dywedodd y byddai rhoi codiad cyflog i weithwyr gofal yn “flaenoriaeth” i Lywodraeth Plaid Cymru, gan ychwanegu ei bod hi’n bryd i Gymru gael llywodraeth “fydd wir yn gofalu am ein gofalwyr”.

“Siomedig”

“Roedd ein gweithwyr yn cael eu tanwerthfawrogi a’u tanbrisio ymhell cyn i bandemig y coronafeirws daro,” meddai.

“Mae’n siomedig fod y Prif Weinidog yn gwrthod cyd-fynd â’r ymrwymiad a amlinellwyd gan ddirprwy arweinydd ei blaid yr wythnos ddiwethaf i isafswm cyflog o £10 i ofalwyr – hyd yn oed yma mewn llywodraeth lle mae ganddo’r pŵer i wneud gwahaniaeth i ddegau o filoedd o fywydau gweithwyr a’r bobl sy’n dibynnu arnynt.

“Mae’r undebau’n galw am gyflog byw go iawn i bob gweithiwr gofal, mae’r sector gofal yn mynnu hyn, mae Sefydliad Bevan wedi galw amdano.

“Byddai’n flaenoriaeth i Lywodraeth Plaid Cymru.

“Byddai Llywodraeth Plaid Cymru yn dechrau drwy dalu isafswm cyflog o £10 yr awr i bob gweithiwr gofal.

“Ond byddwn yn mynd ymhellach fyth – gan weithio tuag at sicrhau cyflogau’r sector gofal yn unol â chyflogau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, gyda gweithwyr gofal yn chwarae rhan annatod yn y Gwasanaeth Iechyd a Gofal Cenedlaethol newydd y byddai llywodraeth Plaid Cymru yn ei greu.

“Mae’n bryd i Gymru gael llywodraeth a fydd wir yn gofalu am ein gofalwyr – chwarae teg drwy gyflog teg.”

“Rhaid i mi ofyn i mi fy hun o ble y daw’r arian” – Mark Drakeford

Wrth ymateb i sylwadau Adam Price, dywedodd Mark Drakeford: “Rwy’n sicr yn cytuno â’r Aelod ei bod yn annerbyniol nad yw pobl sydd wedi gwneud cymaint yn y rheng flaen yn ystod y pandemig yn cael eu talu ar lefel sy’n cydnabod gwerth a phwysigrwydd y gwaith y maent yn ei wneud.

“Wrth gwrs, os bydd fy mhlaid yn San Steffan yn llwyddo i berswadio Llywodraeth y Deyrnas Unedig i wneud taliad o’r fath, bydd arian a ddaw i Gymru yn caniatáu inni ariannu ymrwymiad o’r fath.

“Ond mae’n rhaid i mi ofyn i mi fy hun o ble y daw’r arian.

“O wythnos i wythnos, mae’n gofyn i mi wario arian nad ydym wedi’i gael ac nad oes gennym, ac rwy’n cadw cofnod o gyfanswm ei ymrwymiadau niferus sydd heb eu hariannu, y mae’n ceisio pwyso arnaf yn gyson.”