Gareth Williams
Bydd y cwest i farwolaeth yr ysbïwr MI6 o Fôn yn dechrau yn Llundain heddiw.

Mae 21 mis wedi mynd heibio bellach ers i Gareth Williams gael ei ddarganfod yn farw mewn bag clo mewn bath yn ei gartref yn Llundain.

Wrth i’r cwest hir-ddisgwyliedig agor heddiw, mae teulu Gareth Williams wedi dweud eu bod eisiau gwybod a gafodd y dyn 31 oed ei ladd gan y gwasanaethau cudd.

Bydd 30 o dystion yn rhoi tystiolaeth o flaen y crwner yn ystod y cwest pum niwrnod – rheiny’n cynnwys cyd-asiantaethau cudd, heddlu a ffrindiau.

‘Ymyrryd â thystiolaeth’

Ond mae aelodau o’r teulu eisoes yn pryderu fod “rhai asiantaethau sy’n arbenigo yn y crefftau cudd” wedi ymyrryd â thystiolaeth allweddol yn yr achos.

Mae Scotland Yard wedi methu â darganfod olion ail berson yn y fflat hyd yma, ond mae perthnasau’n credu fod rhywun unai yn bresennol pan fu farw, neu wedi torri mewn i’w gartref yn ddiweddarach i gael gwared ar y dystiolaeth.

Mae’r crwner, Fiona Wilcox, sydd eisoes wedi mynegi ei rhwystredigaeth dros gamgymeriadau ynglŷn â DNA, yn dweud fod y cwestiwn ynglŷn ag a oedd Gareth Williams yn fyw pan gafodd y bag ei gloi “wrth galon yr ymchwiliad hwn.”

Cafodd corff noeth a phydredig Gareth Williams, 31, ei ddarganfod yn y bath yn ei gartref yn Pimlico, yn Llundain, ym mis Awst 2010.

Ymchwiliad manwl

Mae’r darganfyddiad wedi ysgogi ymchwiliad manwl, sylw rhyngwladol yn y cyfryngau, a llawer o theorïau am gynllwynion.

Cafodd Gareth Williams, o Ynys Môn, ei ddarganfod mewn bag North Face, wedi ei gloi o’r tu allan â chlo clap, yn ei fflat ar y llawr uchaf yn Stryd Alderney.

Mae cyfres o brofion post-mortem wedi methu â datgelu sut y bu farw, ac fe fynnodd yr heddlu yn wreiddiol na fyddai wedi gallu cloi ei hun tu fewn i’r bag.

Mae cyfreithiwr y teulu, Anthony O’Toole, wedi dweud y bydd yn rhaid i’r cwest, sydd i’w gynnal yn Llys y Crwner San Steffan, sefydlu pam nad oedd tystiolaeth o unrhyw berson arall yn y fflat yn Llundain.