Marathon Llundain
Mae disgwyl i brofion gael eu cynnal yn ystod y dyddiau nesaf i geisio darganfod sut y bu farw dynes 30 oed wrth iddi gymryd rhan ym Marathon Llundain ddoe.

Roedd y ddynes, sydd heb gael ei hadnabod yn swyddogol, wedi cael ei tharo’n wael wrth iddi gyrraedd  llinell derfyn y ras 26.2 milltir, meddai’r trefnwyr.

Cafodd driniaeth feddygol gan barafeddygon ond bu farw ar y safle bnawn ddoe.