Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw ar Mark Drakeford, prif weinidog Cymru, i gyhoeddi ’map ffordd’ ar gyfer dod â’r cyfnod clo i ben, fel y gwnaeth Boris Johnson, prif weinidog y Deyrnas Unedig yn Lloegr ddoe (dydd Llun, Chwefror 22).

Cyhoeddodd Boris Johnson gynllun pedwar cam sy’n darogan y gall cyfyngiadau coronafeirws yn Lloegr gael eu codi yn llwyr erbyn canol mis Mehefin.

Yr wythnos ddiwethaf, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddyddiadau ar gyfer agor rhai sectorau.

Ond yn ôl Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, fe gollodd Mark Drakeford gyfle i gyhoeddi rhagor o wybodaeth am y llacio.

‘Y wyddoniaeth ddim gwahanol’

“Nid yw’r wyddoniaeth y tu ôl llacio’r rheol chwech o bobol, chwaraeon awyr agored neu eistedd ar fainc mewn parc yn wahanol yng Nghymru a Lloegr,” meddai Andew RT Davies.

“Mae’n bryd rhoi’r gorau i fod yn wahanol er mwyn bod yn wahanol pan gaiff cyn lleied ei gyflawni a dim ond achosi dryswch.

“Roedd sesiwn friffio Llywodraeth Cymru yr wythnos diwethaf yn gyfle a gollwyd i ddarparu llwybr ymlaen a chyhoeddi mwy o gefnogaeth i fusnesau.

“Dylai Prif Weinidog Cymru symud yn gyflym a naill ai cyhoeddi map ffordd i adferiad Cymru, neu’n well byth, cadarnhau y bydd yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i fynd ar drywydd ar y cyd.”

Gwahaniaethau

Mae Andrew RT Davies yn galw am gysondeb er mwyn darparu eglurder.

“Mae eglurder yn hanfodol i bobol yng Nghymru, yn enwedig gan fod dros draean o’n poblogaeth yn byw o fewn 20 milltir i’r ffin â Lloegr, lle mae cymudo, gweithio a chymdeithasu ar draws Clawdd Offa yn rhan mor bwysig o fywyd bob dydd,” meddai.

Ers ddoe (dydd Llun, Chwefror 22), mae disgyblion yng Nghymru wedi dechrau dychwelyd yn raddol i’r ysgol, gan anelu at bob disgybl yn dychwelyd erbyn ar ôl y Pasg – yn Lloegr, bydd yr holl ddisgyblion yn dychwelyd ar yr un pryd fis Mawrth.

Ond mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi awgrymu y gall rhai cyfyngiadau eraill gael eu llacio yma cyn Lloegr.

Mae Prif Weinidog Cymru yn gobeithio y gall y rheol aros gartref gael ei godi ymhen tair wythnos, ar Fawrth 12.

Mae disgwyl i siopau trin gwallt a gwasanaethau cyswllt agos yng Nghymru ailddechrau yr un pryd, cyn belled â bod y sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd yn parhau i wella.

Fydd siopau trin gwallt a gwasanaethau cyswllt agos ddim yn ail agor tan fis yn ddiweddarach yn Lloegr, ar Ebrill 12.

Mae Mark Drakeford hefyd wedi awgrymu y bydd modd agor llety hunanarlwyo mewn pryd ar gyfer y Pasg, ac y gall manwerthu nad yw’n hanfodol ailagor o Fawrth 15 – does dim disgwyl i hyn ddigwydd yn Lloegr tan Ebrill 12.

Ond does dim dyddiadau wedi eu rhoi ar gyfer ailagor sectorau eraill yng Nghymru fel sydd wedi ei wneud yn Lloegr.

Yn ôl Mark Drakeford, blaenoriaeth Llywodraeth Cymru yw defnyddio’r tair wythnos nesaf i ailagor ysgolion yn ddiogel yn gyntaf.

 

Boris Johnson yn cyhoeddi cynllun pedwar cam i lacio cyfyngiadau Lloegr

Prif Weinidog Prydain yn gobeithio codi holl gyfyngiadau Lloegr erbyn Mehefin 21

Adfywio canol trefi wrth galon cynllun adfer yr economi ar ôl Covid-19

Ailadeiladu economi Cymru fel ei bod yn “fwy llewyrchus, cyfartal a gwyrddach nag erioed o’r blaen” yw bwriad Llywodraeth Cymru