Mae’r disgyblion ieuengaf yng Nghymru wedi dechrau dychwelyd i’r ystafell ddosbarth am y tro cyntaf ers mis Rhagfyr.
Dechreuodd plant rhwng tair a saith oed ynghyd â rhai myfyrwyr ar gyrsiau ymarferol mewn colegau ddychwelyd yn raddol ddydd Llun, Chwefror 22.
Wrth groesawu’r datblygiad mae’r Gweinidog Addysg wedi dweud fod addysg yn parhau yn “flaenoriaeth” i Lywodraeth Cymru a’i bod hi’n gobeithio y bydd pob disgybl cynradd wedi dychwelyd i’r ysgol erbyn Mawrth 14.
Does dim dyddiad pendant wedi ei roi i flynyddoedd eraill, ond mae’r Gweinidog Addysg yn gobeithio bydd modd iddynt ddychwelyd ar ôl gwyliau’r Pasg.
“Fel yr wyf wedi dweud droeon, ailagor addysg yw ein prif flaenoriaeth fel Llywodraeth o hyd, a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi gwneud heddiw yn bosib,” meddai Kirsty Williams yn ystod cynhadledd i’r wasg brynhawn dydd Llun.
“Hoffwn ddiolch hefyd i bawb yng Nghymru am ddilyn y rheolau, ac am yr aberth rydych wedi’i wneud, er mwyn ein galluogi ni i gael dysgwyr yn ôl i ysgolion a cholegau.”
Pob disgybl cynradd i ddychwelyd erbyn canol mis Mawrth
Mae’r Gweinidog Addysg Kirsty Williams wedi dweud os bydd y cyfraddau yn parhau i ostwng bydd pob disgybl ysgol gynradd yn dechrau dychwelyd i’r ystafell ddosbarth erbyn canol mis Mawrth.
Dywedodd y byddai hefyd yn hoffi gweld rhai disgyblion ym mlynyddoedd 11 ac 13, a’r rhai sy’n gwneud cymwysterau tebyg mewn colegau, yn dychwelyd i ddysgu wyneb yn wyneb mewn ffordd ddiogel a hyblyg cyn disgyblion eraill.
“Byddwn yn cadarnhau’r sefyllfa i ddysgwyr eraill cyn gwyliau’r Pasg, ond gallaf ddweud wrthych mai fy mwriad i yw cael pob dysgwr yn ôl yn yr ysgol ar ôl y gwyliau.
“Rwy’n addo rhoi rhagor o fanylion am sut y bydd hyn yn edrych pan allaf wneud hynny.”
Daw gwyliau’r Pasg i ben ar Ebrill 12 eleni.
Mae disgwyl i Boris Johnson gyhoeddi yn ddiweddarach heddiw y bydd pob ysgol yn Lloegr yn dychwelyd ar Fawrth 8.
Ychwanegodd Kirsty Williams y bydd athrawon a dysgwyr hŷn yn cael eu profi ddwywaith yr wythnos.
Rhieni’n ‘rhwystredig’?
Dywedodd arweinydd y Cedwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies AoS, y bydd llawer o rieni yn “rhwystredig” o glywed na fydd rhai myfyrwyr yn dychwelyd i’r ysgol tan ar ôl y Pasg.
Ychwanegodd llefarydd y blaid ar addysg, Suzy Davies AoS, “na all Llywodraeth Cymru honni bod myfyrwyr ysgol yn flaenoriaeth iddi pan fydd yn llacio cyfyngiadau eraill cyn dychwelyd pob disgybl i’r ystafell ddosbarth”.
Ailadrodd ei alwad am frechu athrawon wnaeth arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, gan ychwanegu: “Rwy’n credu mai dull Cymru, sef un yr Albanaidd a Gogledd Iwerddon hefyd, yw’r un cywir – sef mynd gam wrth gam yn ofalus, yn hytrach na gwneud y cyfan ar unwaith”.
Cyfraddau yn ‘sylweddol is’ na phan oedd ysgolion ar agor ddiwethaf
Yn ymuno â’r Gweinidog Addysg yn y gynhadledd oedd Dr Chris Jones, dirprwy brif swyddog meddygol Cymru. Gallwch ddarllen ei sylwadau ef, ynghyd â’r ystadegau diweddaraf, isod.