Fe allai’r brechlynnau Covid-19 sy’n cael eu defnyddio ar draws y Deyrnas Unedig leihau risg person o orfod mynd i’r ysbyty o hyd at 94%, yn ôl ffigurau newydd.

Mae’n ymddangos bod brechlyn Rhydychen/AstraZeneca yn gallu lleihau’r risg o orfod cael triniaeth yn yr ysbyty o hyd at 94%, bedair wythnos ar ôl y dos cyntaf, yn ôl ymchwil newydd yn yr Alban.

Roedd y rhai sydd wedi derbyn brechlyn Pfizer 85% yn llai tebygol o orfod mynd i’r ysbyty rhwng 28 a 34 diwrnod ar ôl y dos cyntaf.

Mae’r data ar gyfer y ddau frechlyn gyda’i gilydd yn dangos bod y risg i bobl dros 80 oed – sydd a’r perygl mwyaf o salwch difrifol – yn lleihau 81%, bedair wythnos ar ôl y dos cyntaf.

Roedd y rhan fwyaf o’r bobl oedrannus oedd wedi cymryd rhan yn yr astudiaeth yn fwyaf tebygol o fod wedi cael y brechlyn Rhydychen/ AstraZeneca. Dyma’r grŵp sy’n wynebu’r risg fwyaf o salwch difrifol neu farwolaeth o ganlyniad i Covid-19.

Roedd arbenigwyr wedi astudio ffigurau ar gyfer nifer y bobl yn yr Alban oedd wedi gorfod mynd i’r ysbyty oherwydd Covid ar ôl cael eu brechlyn cyntaf o’i gymharu â’r rhai oedd heb gael y brechlyn hyd yn hyn.

Yn ôl gwyddonwyr, mae’r dystiolaeth yn dangos bod y brechlynnau yn perfformio’n “eithriadol o dda” a’u bod yn disgwyl gweld canlyniadau tebyg ar draws y Deyrnas Unedig.