Mae Bwrdd Gweithredol Cyngor Sir Gâr wedi cyhoeddi ei fod yn ymestyn y cyfnod ymgynghori ar gyfer pedwar o wahanol gynigion ysgolion nes ei fod yn cyfarfod eto i’w trafod ar Fawrth 1.
Dylai’r ymgyngoriadau ar Ysgol Mynydd-y-Garreg ac Ysgol Gwenllian, Ysgol Blaenau ac Ysgol Llandybie, Ysgol Gynradd Dyffryn y Swistir ac Ysgol Rhyd-y-gors fod wedi dod i ben ddoe (dydd Sul, Chwefror 21).
Fodd bynnag, heddiw (22 Chwefror) cynigiodd y Cynghorydd Glynog Davies, Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Gwasanaethau Plant, fod y cyfnod ymgynghori yn cael ei ymestyn hyd nes y bydd y Bwrdd Gweithredol yn cyfarfod ar Fawrth 1 i drafod Hysbysiad o Gynnig ynghylch a yw’n briodol ymgynghori ar ddarpariaeth addysg yn ystod y pandemig.
“Trafododd y Cyngor Llawn Hysbysiad o Gynnig ar egwyddor ymgyngoriadau ar faterion megis darpariaethau addysg yn ei gyfarfod ar 10 Chwefror. Daw’r Hysbysiad o Gynnig hwnnw gerbron y Bwrdd Gweithredol ar 1 Mawrth er mwyn penderfynu yn ei gylch,” meddai’r Cynghorydd Glynog Davies.
“Mae gennym rai ymgyngoriadau a ddaeth i ben yn dechnegol ddoe.
“O ystyried y ddadl sydd ar fin digwydd ynghylch yr Hysbysiad o Gynnig, efallai y bydd aelodau o’r farn ei bod yn annheg cau’r ymgynghoriadau hynny tra bod mater byw i’w drafod, felly cynigiaf fel mater o frys fod y bwrdd yn ymestyn y cyfnod ar gyfer cyflwyno sylwadau ar yr ymgynghoriadau hynny nes ei fod wedi trafod yr Hysbysiad o Gynnig.”
‘Arfer da’
Ychwanegodd y Cynghorydd Davies fod Llywodraeth Cymru, ers i gyfarfod y Cyngor Llawn gael ei gynnal, wedi ymestyn y newidiadau dros dro i ofynion penodol o’r Côd Trefniadaeth Ysgolion am gyfnod pellach er mwyn galluogi ymgynghoriadau i barhau er gwaethaf y pandemig.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi canllawiau diwygiedig ar ymgynghori ar gynigion trefniadaeth ysgolion yn ystod pandemig, gan gyhoeddi nodyn ‘arfer da’ newydd sy’n nodi y “dylai cynigwyr ystyried a ddylid gohirio ymgynghoriadau ar hyn o bryd neu ymestyn cyfnodau ymgynghori er mwyn caniatáu i gynifer o bobl â phosibl ystyried y cynnig a dweud eu dweud”.
“Bydd hyn yn rhoi mwy o gyfle i gasglu adborth o safon ac yn sicrhau bod pob parti’n teimlo ei fod yn cael ei gynnwys a bod eu barn yn cael ei werthfawrogi.”
“Mae hefyd yn caniatáu mwy o amser i gymunedau ddod at ei gilydd, efallai ar-lein drwy’r cyfryngau cymdeithasol, i drafod y cynnig cyn ymateb,” meddai’r nodyn.
Cymdeithas yr Iaith yn galw am “sicrwydd ar frys”
Wrth ymateb i benderfyniad Bwrdd Gweithredol Cyngor Sir Gâr, dywedodd Cymdeithas yr Iaith: “Gan fod llywodraethwyr Ysgol Mynydd-y-Garreg wedi cyflwyno Cynllun Busnes manwl i’r Cyngor a bod cefnogaeth unedig yn yr ardal, galwn ar y Bwrdd Gweithredol i roi sicrwydd ar frys i’r ysgol am ei dyfodol a symud ymlaen i hwyluso ffederasiwn rhyngddi ac Ysgol Gymraeg Gwenllian.
“Fel hyn y gellir mynd ymlaen ar frys gyda chais i sicrhau adeiladau addas i’r ddwy ysgol.”