Mae Bwrdd Gweithredol Cyngor Sir Gâr wedi cynnig capio cynnydd yn y Dreth Gyngor i £1 yr wythnos.
Fe wnaeth Aelodau’r Cyngor gyfarfod heddiw (dydd Llun, Chwefror 22) i drafod adborth o’r ymgynghoriad â’r cyhoedd ynghylch y gyllideb, yn ogystal ag adolygu sefyllfa ariannol bresennol y cyngor.
Ym mis Ionawr, pleidleisiodd y Bwrdd Gweithredol i leihau cynnydd arfaethedig o 4.89% yn y Dreth Gyngor i gynnydd o lai o 4.48%.
Bellach, mae Aelodau o’r Bwrdd Gweithredol wedi penderfynu lleihau hynny ymhellach, gan ddweud eu bod wedi gallu ailedrych ar eu cynllun cyllideb yn dilyn addasiadau allweddol.
Erbyn hyn, mae cynnydd arfaethedig o 3.95% yn y Dreth Gyngor yn cael ei argymell i’r Cyngor Llawn – fyddai’n golygu capio’r cynnydd wythnosol i £1 ar gyfer eiddo Band D cyfartalog.
Bydd aelodau’r cyngor yn cyfarfod ym mis Mawrth i drafod yr argymhelliad a gwneud penderfyniad terfynol.
Dywedodd y Cynghorydd David Jenkins, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau: “Hoffwn ddiolch i bawb a wnaeth gymryd rhan yn yr ymgynghoriad neu ymateb i’r arolygon.
“Un peth sy’n glir yn gyffredinol o ran y rhai oedd wedi cymryd rhan yn yr ymgynghoriad yw eu bod yn sylweddoli bod angen gwneud dewisiadau anodd.
“Roedd ymateb y cyhoedd yn dangos yn glir bod y rhan fwyaf o blaid y cynnydd isaf posibl, a hoffwn i ni wneud popeth y gallwn i gefnogi ein trigolion sy’n parhau i wynebu caledi mawr a achoswyd gan y pandemig.”
Covid-19 wedi cael effaith sylweddol ar gyllideb y cyngor
Mae gan gynghorau gyfrifoldeb cyfreithiol i bennu cyllideb gytbwys bob blwyddyn, gan sicrhau bod incwm o ffynonellau megis y Dreth Gyngor, a refeniw o grantiau a gwasanaethau y telir amdanynt, yn ddigon i dalu am wariant sydd wedi’i gynllunio, yn ogystal â chael arian mewn cronfeydd wrth gefn i dalu am dreuliau heb eu cynllunio.
Dywedodd Cyngor Sir Gâr fod Covid-19 wedi cael effaith sylweddol ar gyllideb y cyngor – gyda chostau ychwanegol o tua £20 miliwn yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Ar ben hynny, mae tua £10 miliwn o incwm wedi’i golli, ac mae’r Dreth Gyngor a gasglwyd tua £2 filiwn yn is na’r disgwyl ar hyn o bryd.
Mae cynlluniau wrth gefn pellach wedi cael eu rhoi ar waith er mwyn sicrhau bod modd darparu gwasanaethau hanfodol wrth i’r pandemig barhau i effeithio ar y sir.
Nid oes unrhyw bolisïau newydd o ran arbedion wedi’u cynnig eleni, ond bydd y cyngor yn bwrw ymlaen â’r arbedion y cytunwyd arnynt mewn cyllidebau blaenorol.
Fodd bynnag, heddiw mae’r Bwrdd Gweithredol wedi cynnig dileu’r cynigion am arbedion yn ymwneud â glanhau gwteri a glanhau strydoedd ar ôl gwrando ar bryderon y cyhoedd am lifogydd, a lleihau’r toriadau a gynlluniwyd ar gyfer gwaith trin wyneb priffyrdd.
Mae’r Cyngor hefyd yn cynnig tua £2.5 miliwn o arbedion rheoli mewnol ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod, a thua £6.7 miliwn o arbedion pellach yn ystod y ddwy flynedd ddilynol, gan ddweud na ddylent effeithio ar ddarparu gwasanaethau cyhoeddus.
“Ymwybodol iawn o’r trafferthion y mae pobl yn eu hwynebu”
Wrth siarad ar ôl y cyfarfod, ychwanegodd Emlyn Dole, Arweinydd y Cyngor: “Rydym yn ymwybodol iawn o’r trafferthion y mae pobl yn eu hwynebu ar hyn o bryd.
“Rydym wedi gweithio’n galed i addasu ein cynigion ar gyfer y gyllideb fel y gallwn barhau i ganolbwyntio ar wasanaethau hanfodol yn ogystal â lleihau’r effaith ar breswylwyr cyn belled ag y bo modd.”