Mae cyfraddau coronafeirws yng Nghymru wedi gostwng mwy nag 80% ers mis Rhagfyr, meddai’r dirprwy brif swyddog meddygol.

Dywedodd Dr Chris Jones fod 630 o achosion o’r coronafeirws fesul 100,000 o bobl oedd yng Nghymru ym mis Rhagfyr ond ei fod bellach wedi gostwng i tua 80 o achosion fesul 100,000 o bobl.

Dywedodd wrth y gynhadledd i’r wasg yng Nghaerdydd fod y ffigwr yn adlewyrchu cyfartaledd cenedlaethol ond bod “gostyngiadau sylweddol” hefyd mewn ardaloedd o Gymru oedd wedi profi cyfraddau achosion uchel o’r blaen.

Mae hyn yn cynnwys Wrecsam, lle mae cyfraddau wedi gostwng o 300 o achosion fesul 100,000 o bobl i tua 80 yn ystod yr wythnosau diwethaf.

“Mae hyn yn galonogol iawn, yn enwedig o ystyried presenoldeb yr amrywiolion newydd, mwy trosglwyddadwy, ac mae’n ganlyniad i ymdrechion ac aberth pawb dros yr wythnosau diwethaf,” meddai Dr Jones.

Mae nifer y cleifion sy’n gysylltiedig â Covid mewn ysbytai yn parhau’n uchel, tua 1,800, ond mae wedi “sefydlogi a dechrau gostwng”, ychwanegodd.

Mae pobl yn aml yn cael eu derbyn i’r ysbyty wythnosau ar ôl contractio Covid-19 – felly mae oedi i’w ddisgwyl o ran y ffigur hwn.

Ddydd Llun (22 Chwefror), dechreuodd y dysgwyr ieuengaf, rhwng tair a saith oed, ddychwelyd i ysgolion yng Nghymru – a’r gobaith yw y bydd pob disgybl ysgol gynradd, yn ogystal â myfyrwyr ym mlynyddoedd 11 a 13, yn dychwelyd o 15 Mawrth.

Disgwylir i bob disgybl ysgol uwchradd ddychwelyd i addysg wyneb yn wyneb ar ôl gwyliau’r Pasg, yn dibynnu ar sefyllfa iechyd y cyhoedd yng Nghymru.

Dywedodd Dr Jones y byddai arbenigwyr yn parhau i fesur cyfraddau coronafeirws, yn ogystal â phwysau ar ysbytai gam wrth gam, cyn i fwy a mwy o ddisgyblion ddychwelyd i ystafelloedd dosbarth.

Ar hyn o bryd mae’r Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau (Sage) yn amcangyfrif bod y rhif R – nifer cyfartalog y bobl y mae person â Covid-19 yn eu heintio – rhwng 0.6 a 0.9 yng Nghymru.

“Mae’n cymharu’n dda â’r sefyllfa yn yr haf ac mae’n sylweddol is na’r cyfnod cyn y Nadolig,” meddai Dr Jones.

Chwarter y boblogaeth wedi cael y brechlyn

Mae dros 860,000 o bobl wedi derbyn eu dos cyntaf o frechlyn Covid-19, gyda mwy na 42,000 wedi cael eu hail ddos hefyd.

Mae hyn yn golygu bod mwy na 25% o boblogaeth Cymru wedi derbyn eu dos cyntaf, meddai Dr Jones.

“Rydym yn dal ar y trywydd iawn i gyrraedd y garreg filltir nesaf o gynnig brechiad i bawb yn grwpiau blaenoriaeth pump i naw erbyn diwedd mis Ebrill, ar yr amod bod cyflenwadau brechlynnau yn parhau ar y trywydd cywir,” ychwanegodd.

Fodd bynnag, dywedodd y byddai’n cymryd ychydig fisoedd i’r bobl fwyaf agored i niwed fod wedi derbyn y ddau ddos o’r brechlyn.

Rhybuddiodd Dr Jones ei bod “yn dal ychydig yn gynnar mae’n debyg” i fod yn glir am effeithiau’r rhaglen frechu yn y Deyrnas Unedig.

“Rydym wedi gweld gostyngiad o bron i 50% yn nifer yr achosion o Covid a gadarnhawyd yn ein hysbytai ers yr uchafbwynt, ac ar yr un pryd ag yr ydym wedi cael gostyngiad o tua 80% yn nifer yr achosion hefyd,” meddai.

“Mae’r newidiadau yn y cyfraddau achosion ymhlith pobl 60 oed a throsodd, a’r rhai dan 60 oed, yn debyg yng Nghymru ar hyn o bryd – ond byddwn yn gobeithio y byddwn yn dechrau gweld gostyngiad yn y cyfraddau achosion ymhlith pobl dros 60 oed yn fuan.”

Amrywolion ac ystadegau diweddaraf

Dywedodd Dr Jones ei fod yn credu bod 17 achos tebygol o amrywiolyn De Affrica yng Nghymru, gyda phob achos ond dau yn gysylltiedig â theithio, a “dim arwydd” o amrywiolion Brasil.

Ddydd Llun, dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru y bu 319 yn rhagor o achosion o’r coronafeirws yng Nghymru, gan fynd â chyfanswm yr achosion a gadarnhawyd i 202,007.

Adroddwyd am naw marwolaeth arall, gan fynd â’r cyfanswm yn y wlad ers dechrau’r pandemig i 5,246.

Roedd cyfanswm o 862,248 dos cyntaf o frechlyn Covid-19 bellach wedi’u rhoi, cynnydd o 2,165 o’r diwrnod blaenorol.

Ac roedd 42,752 o ail ddosau wedi’u rhoi hefyd, cynnydd o 4,979.

O ran grwpiau oedran, mae 90.5% o bobl dros 80 oed wedi derbyn eu dos cyntaf, ynghyd â 92.6% o bobl 75-79 oed a 91.9% o bobl 70-74 oed.

O ran cartrefi gofal pobl hŷn, mae 84.4% o breswylwyr ac 85.8% o staff wedi derbyn eu dos cyntaf o frechlyn Covid-19.

Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod 84.3% o bobl yn y categori ‘clinigol eithriadol o agored i niwed’ wedi derbyn eu dos cyntaf.

Pob disgybl cynradd i ddychwelyd i’r ysgol erbyn canol mis Mawrth

Does dim dyddiad pendant wedi ei roi i flynyddoedd eraill, ond mae’r Gweinidog Addysg yn gobeithio bydd modd i bawb ddychwelyd ar ôl gwyliau’r Pasg