Bydd disgyblion y Cyfnod Sylfaen ar Ynys Môn yn aros adref yr wythnos hon, a hynny gan mai cyfradd heintio’r ynys yw’r uchaf yng Nghymru.

Mae cyfradd heintio Ynys Môn heddiw (Dydd Llun, Chwefror 22) yn 112.8 fesul 100,000 o’r boblogaeth, sydd yn sylweddol uwch na chyfartaledd Cymru (80 fesul 100,000).

Mae’r penderfyniad i ohirio dychweliad plant y Cyfnod Sylfaen tan yr wythnos nesaf wedi’i wneud er mwyn gweld a fydd y cyfraddau heintio yn gostwng dros y saith diwrnod nesaf.

‘Gwneud yr hyn sydd orau i’n hysgolion’

Dywedodd Arweinydd y Cyngor Sir, y Cynghorydd Llinos Medi: “Heddiw, yn anffodus, Ynys Môn sydd â’r gyfradd uchaf o haint y coronafeirws yng Nghymru.”

“Mae rhieni, staff ysgol a’n cymunedau yn bryderus am y gwir fygythiad sy’n bodoli o ganlyniad i’r coronafeirws.

Gan ystyried y cyfraddau heintio uchel yma, byddwn yn parhau i gymryd yr holl gamau rhesymol posibl er mwyn gallu amddiffyn iechyd disgyblion, staff yr ysgolion a’n cymunedau ehangach.”

Ychwanegodd y Cyng Medi: “Yn gynharach y mis hwn fe wnes i addo y byddem yn gwneud yr hyn sydd orau i’n hysgolion.

“Mae’n hanfodol ein bod yn cael pethau’n iawn o ran ein plant ac wrth iddynt ddychwelyd i’r ystafell ddosbarth.

“Rydym felly wedi gwneud y penderfyniad i oedi’r broses yr wythnos hon er mwyn gweld a fydd y gyfradd heintio yn gostwng.

“Os bydd hyn yn digwydd, gobeithiwn y byddwn mewn sefyllfa i allu croesawu disgyblion yn ôl i’w hystafelloedd dosbarth yn gynnar wythnos nesaf.”

‘Cysylltiad agos a rheolaidd â’n hysgolion’

Mae ysgolion Ynys Môn bellach yn cynllunio ar gyfer croesawu disgyblion yn ôl yn raddol o ddydd Llun 1 Mawrth ymlaen.

Ychwanegodd y deilydd portffolio Addysg, y Cyng Meirion Jones: “Byddwn yn parhau i adolygu’r gyfradd heintio ar yr Ynys yn ddyddiol, a byddwn yn cadw mewn cysylltiad agos a rheolaidd â’n hysgolion.

“Wrth gwrs, bydd ysgolion yn diweddaru rhieni am y trefniadau a bydd addysgu o bell yn parhau tan y gallwn groesawu disgyblion yn ôl.”

“Mae’n hanfodol ein bod yn dilyn rheolau a chanllawiau Llywodraeth Cymru. Bydd ein gweithredoedd a’n hymddygiad yn penderfynu’r raddfa trosglwyddiad ar Ynys Môn.

“Mae’n hanfodol ein bod yn lleihau nifer yr achosion er mwyn galluogi ein hysgolion i allu ailagor cyn gynted â phosibl.”