Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn ymgynghori ar gynigion ar gyfer Ysgol y Felin ac ysgolion Llan-gain, Llansteffan a Bancyfelin.
Mae’n cynnig newid darpariaeth y Cyfnod Sylfaen yn Ysgol y Felin i addysg cyfrwng Cymraeg o fis Medi 2022 ymlaen.
Byddai hyn ond yn effeithio ar ddisgyblion sy’n dechrau yn y Cyfnod Sylfaen yn yr ysgol o fis Medi 2022 ymlaen ac ni fyddai’n effeithio ar ddisgyblion presennol sy’n mynychu’r ysgol.
Yn ôl y Cyngor, byddai’r cynnig hwn hefyd yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu cyfleoedd dwyieithog ac amlieithog yn unol â’r cwricwlwm newydd a fydd yn cael ei lansio yn 2022.
Yr ail gynnig yw sefydlu ffederasiwn rhwng ysgolion Llan-gain, Llansteffan a Bancyfelin o Fedi 1 eleni.
Mae ysgolion Llansteffan a Llan-gain wedi bod yn rhannu pennaeth ers mis Ebrill 2013, gydag ysgol Bancyfelin yn rhannu’r un pennaeth ers mis Medi 2016.
Os caiff ei weithredu, byddai un corff llywodraethu yn disodli’r tri chorff llywodraethu presennol.
Bydd y Cyngor yn cynnal ‘sesiwn galw heibio’ ar gyfer Ysgol y Felin drwy Microsoft Teams ddydd Mercher (Mawrth 10) rhwng 4.30yh a 6.30yh; a bydd y sesiwn galw heibio ar gyfer ysgolion Llan-gain, Llansteffan a Bancyfelin yn cael ei chynnal ddydd Mawrth (Mawrth 16) rhwng 4.30yh a 6.30yh.
“Mae cyfrifoldeb cyfreithiol ar y Cyngor i adolygu nifer a math yr ysgolion y mae’n eu cynnal yn yr ardal ac a yw’n llwyddo ai peidio i wneud y defnydd gorau o’r adnoddau a’r cyfleusterau sydd ar gael i ddarparu’r cyfleoedd y mae plant yn eu haeddu,” meddai’r Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Gwasanaethau Plant.
“Fel rhan o’r broses hon mae’r Cyngor wedi cyhoeddi ei weledigaeth ar gyfer y dyfodol o ran holl ysgolion cynradd ac uwchradd y Sir.
“Mae hyn yn cynnwys ymgynghori ynghylch y trefniadau addysg yn y dyfodol yn Ysgol y Felin ac ysgolion Llan-gain, Llansteffan a Bancyfelin.
“Mae’n bwysig bod cymunedau lleol a phartïon â diddordeb yn rhoi eu barn ar y cynigion hyn.
“Mae rhagor o fanylion ar gael ar wefan y Cyngor; fodd bynnag, os oes gan unrhyw un unrhyw gwestiynau, byddwn yn eu hannog i fynychu’r sesiynau galw heibio rhithwir, neu gysylltu â’n swyddogion a fyddai’n hapus i helpu.”