Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi cyhoeddi bod pump o wardiau Ysbyty Gwynedd ym Mangor wedi eu heffeithio gan Covid-19.

Mae 75 claf yn derbyn triniaeth ar gyfer yr haint, ac mae 49 o’r achosion hyn yn gysylltiedig â’r clwstwr newydd.

Golyga hyn fod mwy o gleifion Covid yn cael triniaeth yn yr ysbyty nag ar unrhyw adeg arall yn ystod y pandemig.

Wrth i’r ysbyty geisio rheoli’r clwstwr o achosion mae mwy o staff a chleifion yn cael eu profi i weld pa mor wael yw’r sefyllfa.

Eglura Dr Karen Mottart, Cyfarwyddwr Meddygol yn Ysbyty Gwynedd, fod rhaglen brofi ar gyfer staff a chleifion ar y gweill er mwyn cael “darlun manwl-gywir o’r sefyllfa bresennol”.

Ond mae’n dweud ei bod hi’n disgwyl canfod mwy o achosion ymhlith cleifion a staff.

“Mae’r holl gleifion sydd wedi profi’n bositif yn cael eu hynysu’n briodol, yn unol â pholisi Iechyd Cyhoeddus Cymru ar fesurau atal a rheoli heintiau,” meddai.

“Wrth i ni barhau gyda rhaglen profi ychwanegol, rydym yn disgwyl canfod mwy o achosion yn cynnwys cleifion a staff nad ydynt yn dangos symptomau ar hyn o bryd.”

Gwahardd ymweliadau

Mae’r bwrdd iechyd yn gofyn i bobol gadw draw o’r ysbyty ac mae ymweliadau wedi eu gwahardd, heblaw fod amgylchiadau arbennig.

Ond mae’r bwrdd iechyd yn pwysleisio y dylai pobol barhau i fynd i’w hapwyntiadau arferol.

“Mae’r firws yn dal i gylchredeg yn ein cymunedau, a chan fod yr amrywiolion newydd yn cael eu trosglwyddo’n haws, mae mwy o gleifion â COVID-19 wedi’u derbyn i’n hysbytai nag unrhyw adeg arall yn ystod y pandemig,” meddai Dr Karen Mottart.

“Mae risg sylweddol y gall claf brofi’n negyddol am Covid-19 tra bydd y firws yn dal i fod yn ei gyfnod magu, ac yna, profi’n bositif ar ôl cael ei dderbyn i’r ysbyty.

“Mae’r holl ysbytai’n wynebu her o ran sicrhau cydbwysedd o ran y risg o heintio gan ddarparu gofal ar gyfer y rhai sydd ei angen.”