Mae gwyddonwyr o Brifysgol Caerdydd wedi chwarae rhan flaenllaw mewn ymchwil fydd yn gallu dweud, wrth astudio geneteg rhywun, a fyddan nhw’n cael lewcemia neu beidio.

Fe wnaeth gwyddonwyr o nifer o brifysgolion astudio samplau gwaed cleifion y math mwyaf cyffredin o ganser y gwaed, CLL, gan ddarganfod tueddiadau genetig i ddatblygu math difrifol o’r salwch.

Gallai’r gwaith arwain at bobol yn cael rhybudd yn y dyfodol fod ganddyn nhw’r geneteg sy’n gallu arwain at lewcemia, ac fe allen nhw dderbyn triniaeth cyn i’r salwch gydio ynddyn nhw.

Mae difrifoldeb CLL yn amrywio o un claf i’r llall, gyda rhai yn colli pwysau ac yn darganfod lwmpyn yn eu gwddf a’u cesail, tra bod rhai cleifion sydd heb symptomau o gwbl.

Er nad yw’r canfyddiadau’n gallu cynnig gwellhad, fe fydd yn helpu mwy o bobol i oroesi drwy ddarganfod y salwch yn gynnar.

Fe fu naw o brifysgolion yn cydweithio ar yr ymchwil, sef Caerdydd, Hull Caerefrog, Newcastle, Leeds, Caerlŷr, Lerpwl, Rhydychen, Southampton a Sefydliad Ymchwil Canser Llundain.