Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton, wedi cyhoeddi bod y lefel rhybudd yn symud o 5 i 4.
Mewn datganiad ar y cyd â phrif swyddogion meddygol Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon dywedodd bod y bygythiad i’r Gwasanaeth Iechyd wedi lleihau.
Daw’r penderfyniad yn dilyn cyngor gan y Gyd-ganolfan Bioddiogelwch ac yng ngoleuni’r data diweddaraf.
Ond bydd cyfyngiadau Lefel 4, sydd mewn lle ers mis Rhagfyr, yn parhau mewn lle am o leiaf pythefnos arall.
‘Peidio twyllo ein hunain’
“Mae’r gwasanaethau iechyd ar draws y pedair gwlad yn dal i fod o dan bwysau aruthrol gyda llawer iawn o gleifion yn yr ysbyty. Fodd bynnag, diolch i ymdrechion y cyhoedd, rydyn ni’n awr yn gweld gostyngiad parhaus yn y niferoedd, ac mae’r bygythiad y gallai’r GIG a gwasanaethau iechyd eraill gael eu gorlwytho ymhen 21 o ddiwrnodau wedi lleihau.
“Ond rhaid inni beidio â thwyllo ein hunain – mae cyfraddau trosglwyddiadau, lefel y pwysau ar ysbytai a nifer y marwolaethau yn dal i fod yn uchel iawn.
“Ymhen amser, bydd y brechlynnau yn cael effaith wirioneddol ac rydyn ni’n annog pawb i gael eu brechu pan fyddan nhw’n cael y cynnig.
“Am y tro, fodd bynnag, mae’n hynod bwysig ein bod ni i gyd – p’un a ydyn ni wedi cael ein brechu ai peidio – yn parhau i fod yn wyliadwrus a’n bod ni’n dilyn y canllawiau o hyd.”
Ffigurau brechu diweddaraf
Erbyn 10pm Chwefror 24, roedd 889,270 o bobl wedi derbyn eu dos cyntaf o frechlyn Covid-19, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae hyn yn cyfateb i 28.2% o gyfanswm poblogaeth Cymru, a 35.2% o bobl 18 oed a throsodd.
Roedd cyfanswm o 90.9% o bobl 80 oed a throsodd wedi derbyn eu dos cyntaf, ynghyd â 93.1% o bobl 75-79 oed a 92.5% o bobl 70-74 oed.
Y ffigur diweddaraf ar gyfer preswylwyr cartrefi gofal pobl hyn yw 85.3%; ar gyfer gweithwyr cartrefi gofal mae’n 86.2%; ac ar gyfer pobl 16-69 oed sy’n agored iawn i niwed yn glinigol, mae’n 85.6%.
Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru y gallai pobl ymddangos fwy nag unwaith yn y cyfansymiau hyn. Er enghraifft, bydd rhywun 80 oed a throsodd sy’n byw mewn cartref gofal yn cael ei gynnwys yn y ganran ar gyfer yr 80 oed a throsodd a hefyd yn y ganran ar gyfer y rhai mewn cartref gofal.
Ffigurau diweddaraf y feirws
Mae achosion yn parhau i ostwng – mae 75 achos fesul 100,000 o bobol yng Nghymru.
Ond mae’r ffigyrau yng Nghaerdydd ac Ynys Môn yn parhau dros 100 i bob 100,000 o bobol.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cofnodi 21 yn rhagor o farwolaethau’n ymwneud â Covid-19 dros y 24 awr ddiwethaf.
Mae’n golygu bod 5,284 o bobol bellach wedi marw ar ôl cael prawf positif am coronafeirws yng Nghymru,
Mae 312 o achosion newydd hefyd wedi eu cadarnhau gan fynd a’r cyfanswm i 202,872 ers dechrau’r pandemig.