Mae’n rhaid i Boris Johnson osgoi dilyn strategaeth o “undebaeth ymerodraethol” a chymryd diddordeb tymor hir o ran helpu Cymru i ddatblygu, yn ôl ASau.
Fe wnaeth y cyn-weinidog Llafur, Kevin Brennan AS, hefyd rybuddio Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart AS, y dylai ddangos mwy o barch at bleidleiswyr wedi iddo gynghori Llywodraeth Cymru i roi’r gorau i “fecso am ei statws bach yng Nghaerdydd”.
Daeth y sylwadau yng nghanol beirniadaeth o gronfa i sbarduno adfywio ledled y DU – a fydd bellach yn cael ei rheoli gan Whitehall er y bydd yn gwario ar faterion datganoledig.
‘Troedio llwybr peryglus’
Wrth agor y ddadl flynyddol ar faterion Cymreig yn Nhŷ’r Cyffredin, dywedodd Mr Brennan (Gorllewin Caerdydd) wrth ASau: “Rwy’n dweud wrth yr Ysgrifennydd Gwladol ei fod yn troedio llwybr peryglus.
“Mae wedi datgelu nad oes ganddo barch tuag at sefydliadau democrataidd Cymru, gan ddewis yn hytrach edrych i lawr ei drwyn o Dŷ Gwydyr, a defnyddio’r geiriau snichlyd hynny, ‘eu statws bach eu hunain’, gan gyfeirio at Lywodraeth etholedig Cymru.”
Tynnodd Mr Brennan sylw at bwysigrwydd datganoli, gan ganmol ymateb Llywodraeth Cymru i bandemig Covid-19 – a chododd bryderon am agwedd San Steffan tuag at yr undeb.
Dywedodd: “Nid nawr yw’r amser am unoliaeth ymerodraethol gan Ysgrifennydd Cymru na’r Prif Weinidog.
“Nawr yw’r amser i gydnabod mai dim ond drwy gydraddoldeb a pharch at ddatganoli y gall yr undeb gwirfoddol hwn o bedair gwlad weithredu, gydag ymrwymiad i wella a datblygu sefydliadau democrataidd yng Nghymru, ac yng nghenedloedd a rhanbarthau’r Deyrnas Unedig.”
“Bwydo galwadau am fwy o wahanu”
Dywedodd cyn-Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns AS, bod modd gweld manteision yr undeb gyda’r gefnogaeth a ddarparwyd yn ystod y pandemig, ond rhybuddiodd fod ymagwedd Whitehall at y pedair gwlad dros y blynyddoedd wedi bod yn “bwydo galwadau am fwy o wahanu”.
Dywedodd: “Daeth yr agwedd ’datganoli ac anghofio’ yn endemig ymysg swyddogion ers 1999, gan drosglwyddo’r cyfrifoldeb i weinyddiaethau datganoledig – p’un a fyddai dull pedair gwlad yn sicrhau gwell canlyniadau ai peidio.”
Croesawodd Mr Cairns y cyhoeddiadau gwariant diweddar, gan gynnwys y gronfa “lefelu i fyny”, gan ychwanegu: “Fy nghais i yw bod angen dilyn hyn drwodd, dyrannu cyllid – mae’r pwerau i wario yn sylfaenol a dylid llongyfarch y Llywodraeth.
“Fodd bynnag, mae angen diddordeb gweithredol o hyd gan Whitehall i ddeall a chyflawni dros gymunedau yng Nghymru.”
“Dylai penderfyniadau sy’n effeithio ar Gymru gael eu gwneud yng Nghymru”
Fe wnaeth arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts AS, feirniadu sylwadau Ysgrifennydd Gwladol Cymru am Lywodraeth Cymru, gan ddweud ei fod yn anwybyddu “pa mor ddibwys yw Mr Hart ei hun wrth fwrdd y Cabinet”.
Dywedodd Ms Saville Roberts y “dylai penderfyniadau sy’n effeithio ar Gymru gael eu gwneud yng Nghymru, gan lywodraeth sy’n atebol i bobl Cymru”.
“Drwy’r ‘Gronfa Lefelu i Fyny’ hon, mae San Steffan yn goruwchreoli Cymru, yn ochrgamu ein democratiaeth ac yn pennu ein dyfodol.
“Mae sylwadau’r Ysgrifennydd Gwladol neithiwr y dylem “roi’r gorau i fecso” am yr hyn y mae’n ei ystyried yn “statws bach” yn anwybyddu pa mor ddibwys yw ef ei hun wrth fwrdd y cabinet [ac hefyd yn anwybyddu] y bydd Cymru’n colli un rhan o bump o’i chynrychiolaeth yn San Steffan yn y Senedd nesaf.
“Efallai y dylai fyfyrio ar ei rôl ei hun cyn bychanu ein democratiaeth.
“Mae’r cyhoeddiad hwn yn gamgymeriad amheus, yn siam cywilyddus o aredig etholiad. Geiriau gwag pan fydd angen cymaint gwell ar Gymru.
“Y wers i Gymru o’r Brexit coch, gwyn a glas”
Dywedodd Hywel Williams o Blaid Cymru fod mwy o bobl yng Nghymru yn pwyso am annibyniaeth nag erioed o’r blaen, wrth iddo rybuddio bod allforwyr yn wynebu “rhwystrau enfawr” i fasnachu a gwaith papur “cynyddol”.
Dywedodd: “Mae’r wers i Gymru o’r Brexit coch, gwyn a glas hwn yn glir – peidiwch â disgwyl i San Steffan chwilio am y buddiannau gorau.
“Rheoli ein materion ein hunain a siarad yn uniongyrchol â’n partneriaid rhyngwladol yw ein ffordd i ffyniant, ehangu ein cyfleoedd ac agor ein gorwelion – ac mae ein pobl bellach yn ceisio manteisio ar y cyfle hwnnw mewn niferoedd mwy nag erioed, yn enwedig pobl ifanc.”
‘Damcaniaethau cynllwyn’
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Mr Hart, wrth ASau: “Rwy’n gobeithio, ymhellach i lawr y lein y bydd dadansoddiad ar raddfa lawn o’r misoedd diwethaf hyn, ac efallai y bydd y cyfle i adael llu y damcaniaethau cynllwyn, a chyfle i roi canmoliaeth i’r rhai sydd wedi ysgwyddo’r baich mwyaf.
“Bydd yn ein helpu i ddangos lle mae datganoli wedi gweithio, ac mae wedi gweithio mewn rhannau, ac, wrth gwrs, os ydyn ni’n onest, lle nad yw wedi gweithio. Bydd yn dangos y rôl a chwaraeir gan y Weinyddiaeth Amddiffyn, y rhaglen frechu, ymchwil a datblygu, ac wrth gwrs cymorth ariannol o’r math yr oeddem yn gallu ei wneud yn gyflym ac yn gadarnhaol.”
Ychwanegodd: “Bydd yn dangos, gobeithio, fod yr undeb yn ymwneud â mwy nag arian… y cwlwm hanesyddol hwn sy’n ychwanegu at gryfderau unigol ei gydrannau. Gobeithio y bydd yn dangos unwaith ac am byth mai’r dewis yw nid ‘a allwn fod yn wladgarwr neu’n undebwr’, ond sut y gallwn fod y ddau, a hynny’n effeithiol.”
Datganiad ysgrifenedig Llywodraeth Cymru
Yn y cyfamser, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig yn ymateb i’r penderfyniad gwariant sy’n cyhuddo llywodraeth San Steffan o “osgoi’r setliad datganoli” a mynd yn “hollol groes i’r safbwynt a fynegwyd gan Senedd Cymru”.
Mae’r datganiad, sydd yn enw’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd, Jeremy Miles AoS, a’r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, Rebecca Evans AoS, yn nodi bod y penderfyniad “yn golygu mai adrannau Whitehall fydd yn gwneud penderfyniadau; adrannau sydd heb hanes o gwbl o gyflawni prosiectau yng Nghymru, dim profiad o weithio gyda chymunedau yng Nghymru a dim dealltwriaeth o beth yw blaenoriaethau’r cymunedau hynny.”
“Yn ymarferol,” meddai’r datganiad “bydd hyn yn golygu bod Llywodraeth y DU yn gwneud penderfyniadau ar faterion datganoledig yng Nghymru heb fod yn atebol i Senedd Cymru ar ran pobl Cymru”
Mae’r datganiad hefyd yn nodi mai “rhan fach o’r cyllid rydym wedi’i golli o ganlyniad i golli mynediad at Gronfeydd Strwythurol [Ewropeaidd]” fydd bellach ar gael i Gymru – gan ddweud ei bod yn debygol mai “ychydig mwy na £50 miliwn bob blwyddyn” fydd ar gael ar gyfer prosiectau Cymru.
“Hanes gwarthus”
Mae’r datganiad hefyd yn nodi fod gan Lywodraeth bresennol y DU “hanes gwarthus o ran cynnig hyd yn oed y gyfran deg o wariant y DU i Gymru, ac y dylai Llywodraeth y DU “ganolbwyntio ar wneud iawn am ei methiant hanesyddol”.
Mae’n cyhuddo Llywodraeth y DU o “fynd ati’n fwriadol i gymryd arian oddi wrth Gymru a chychwyn brwydr gyfansoddiadol ddi-angen er mwyn gwanhau pwerau datganoledig ynghanol pandemig byd-eang.”
Gallwch ddarllen y datganiad ysgrifenedig yn ei gyfanrwydd yma.