Mae’r Trysorlys wedi cyhoeddi y bydd cronfa gwerth biliynau o bunnoedd i sbarduno adfywio yn cael ei hymestyn i gynnwys Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Cyhoeddwyd y gronfa ‘lefelu i fyny’ yn wreiddiol yn adolygiad gwariant y llynedd gyda £4 biliwn ar gyfer adfywio canol trefi, trafnidiaeth leol a phrosiectau diwylliannol a threftadaeth yn Lloegr.

Dywedodd Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, Stephen Barclay, fod y cyllid, sy’n rhedeg tan 2024/25, bellach yn cael ei gynyddu i £4.8 biliwn ac y byddai’n cael ei ymestyn ledled y Deyrnas Unedig.

Golyga hyn mai gweinidogion y Deyrnas Unedig fydd yn penderfynu sut y caiff arian ei wario ar gynlluniau fel prosiectau adfywio yng Nghymru.

Pan gyhoeddwyd £4bn i Loegr y llynedd, roedd hynny’n golygu £800m yn ychwanegol i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Byddai Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi gallu penderfynu beth i’w wneud â’r £800m.

Angen “edrych ar y darlun ehangach”

Fodd bynnag, mae’r Trysorlys yn dweud nawr mai Llundain fydd yn rhedeg y gronfa ar gyfer pob un o bedair gwlad y Deyrnas Unedig yn hytrach na rhoi unrhyw arian ychwanegol i’r llywodraethau datganoledig.

“Bydd ein cronfa lefelu i fyny yn cefnogi prosiectau lleol i wella bywyd bob dydd i filiynau o bobl ac edrychwn ymlaen at weithio gyda phob ardal i hybu economïau lleol,” medd Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, Stephen Barclay.

“Drwy ymestyn y gronfa lefelu i fyny ledled y Deyrnas Unedig, rydym yn sicrhau nad oes unrhyw gymuned yn y Deyrnas Unedig yn cael ei gadael ar ôl.”

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart AS, bod y gronfa’n “fuddsoddiad sylweddol yng Nghymru ac mae’n dyst i’n penderfyniad i lefelu i fyny y Deyrnas Unedig gyfan”.

Hefyd, bu iddo ddweud wrth y BBC: “Rwy wir yn dymuno i Lywodraeth Cymru roi’r gorau i fecso am eu statws bach eu hunain yng Nghaerdydd ac edrych ar y darlun ehangach”.

“Tanseilio democratiaeth Cymru”

Daw hyn yn sgil Deddf y Farchad Fewnol a roddodd bwerau gwario newydd i Lywodraeth y DU mewn meysydd sydd wedi’u datganoli, megis pwerau gwario ar seilwaith a chyfleusterau diwylliannol ac addysgol.

Mae Plaid Cymru wedi cyhuddo gweinidogion Llywodraeth y Deyrnas Unedig o “danseilio democratiaeth Cymru”.

“Mae ein cymunedau yn galw am fuddsoddiad. Ond gydag etholiad ar y gweill, mae’n glir na fydd y buddsoddiad Torïaidd yma’n cael ei roi i wella anghenion hirdymor Cymru ond y bydd yn mynd yn ôl blaenoriaethau gwleidyddol,” meddai Liz Saville Roberts.

“Ni ddylai Boris Johnson a’i griw yn San Steffan gael unrhyw ran mewn penderfynu pa gynlluniau sy’n derbyn arian.”

“Tanseilio canlyniad dau refferendwm aeth o blaid datganoli i Gymru”

Mewn datganiad yn ymateb i’r datblygiad, dywedodd Llywodraeth Cymru nad yw’r arian yn “newydd nac yn ychwanegol” a bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig “yn tanseilio canlyniad dau refferendwm aeth o blaid datganoli i Gymru”.

“Ni chafodd Llywodraeth y DU ei hethol er mwyn gwneud penderfyniadau neu wario arian mewn meysydd sydd wedi’u datganoli i Gymru,” meddai’r datganiad.

“Mae hefyd yn enghraifft o’r ddeddfwriaeth Marchnad Fewnol – sy’n mynd yn erbyn y cyfansoddiad ac a gafodd ei wrthod gan y Senedd – yn cael ei defnyddio i atal penderfyniadau am Gymru rhag cael eu gwneud yng Nghymru.”

Fis yn ôl, wrth siarad â Golwg, dywedodd Jeremy Miles, Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog Pontio Ewropeaidd Llywodraeth Cymru bod Deddf y Farchnad Fewnol yn “sarhad llwyr i’r setliad datganoli” a galwodd am “newid sylfaenol” yn y ffordd y mae’r Deyrnas Unedig yn cael ei llywodraethu.

“Torïaid yn benderfynol o ddatgymalu datganoli”

O’u rhan nhw, dywedodd yr SNP fod San Steffan yn ceisio “ochrgamu” y llywodraethau datganoledig.

“Mae ymdrech y Llywodraeth Dorïaidd i ochrgamu’r llywodraethau datganoledig a phennu gwariant dros feysydd datganoledig yn arwydd arall eto o’i chynlluniau noeth i gipio pŵer,” meddai dirprwy arweinydd y blaid yn San Steffan, Kirsten Oswald.

Ychwanegodd: “Yn hytrach na throsglwyddo cyllid drwy symiau canlyniadol Barnett … mae’r Torïaid yn benderfynol o ddatgymalu datganoli a chymryd rheolaeth, heb unrhyw eglurder o gwbl ynghylch faint fydd yn cael ei wario yn yr Alban.”

Datblygiad rhagweladwy

Mae sylwebwyr wedi darogan ers peth amser y byddai Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn mynd ati i wario mewn meysydd datganoledig, gan osgoi’r llywodraethau datganoledig, yn sgil Bil y Farchnad Fewnol – a hynny mewn ymgais i hyrwyddo’r Undeb.

Yn ysgrifennu yn Golwg bum mis yn ôl, dywedodd Dylan Iorwerth:

“Mi gawson ni rybudd rai blynyddoedd yn ôl pan ddaeth hi’n amlwg fod San Steffan am gadw rhai grymoedd Ewropeaidd-gynt a ddylai ddod i’r gwledydd. Ymhlith y rheiny rŵan, mae rheolau tros gymorth gan lywodraethau i fusnes a diwydiant.

“Mi fydd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig hefyd yr hawl i wario yng Nghymru mewn meysydd datganoledig hyd yn oed os ydi Cymru yn erbyn…

“Mewn geiriau eraill, mi fydd ein harian ni’n cael ei wario ar flaenoriaethau Prydeinig mewn meysydd sydd i fod o dan reolaeth Cymru … a meddyliwch am ben draw hynny.”

 

Y bygythiad mawr

Dylan Iorwerth

“Ar yr wyneb, mae’r Mesur yn ymddangos yn gymharol ddiniwed a dyna yw dadl y Ceidwadwyr… ond fel erioed, realiti ydi’r broblem.”