Mae blaenasgellwr Cymru a’r Gweilch, Justin Tipuric, yn mynnu fod Cymru’r un mor barod ag erioed i wynebu Lloegr.

Er bod yr amgylchiadau yn wahanol iawn i’r tro diwethaf wynebodd Cymru’r hen elyn yn Stadiwm Principality mae’n hyderus y gall Cymru ennill.

“Yn amlwg mae tipyn o hanes yn perthyn i gêmau Cymru a Lloegr, felly does dim gwir bwys beth yw’r sefyllfa,” meddai.

“Wrth gwrs mae ychydig yn rhyfedd ein bod ni’n chwarae Lloegr heb gefnogaeth y dorf arferol yn y stadiwm, ond mae wynebu Lloegr yn dal i fod yn uchafbwynt gyrfa unrhyw chwaraewr rygbi Cymru.”

Er i’r ddau dîm wynebu ei gilydd ym Mharc y Scarlets yng Nghwpan Cenhedloedd yr Hydref y llynedd dyma’r tro cyntaf iddyn nhw chware yn y brifddinas ers 2019.

Cymru oedd yn fuddugol bryd hynny, 21-13, gan fynd ymlaen i ennill y Gamp Lawn am y tro cyntaf ers 2012.

“Mae’n brofiad gwahanol iawn mynd i mewn i’r stadiwm heb dorf, ond yn anffodus dyna yw’r norm dyddiau yma.

“Mae bron iawn fel petai ni gyd wedi dod i’r arfer a’r norm newydd, boed hynny ar lefel clwb neu yn ystod gêmau rhyngwladol yr hydref a’r chwe gwlad.

“I ddweud y gwir mae’n mynd i fod yn fwy rhyfedd pan fydd torfeydd yn cael dychwelyd.”

Mae Llywodraeth San Steffan yn gobeithio bydd stadiymau mawr yn Lloegr yn gallu croesawu torfeydd o hyd at 10,000 erbyn canol mis Mai, a thorfeydd llawn erbyn Mehefin 21.

Ond hyd yma, dydy Llywodraeth Cymru heb gyhoeddi cynlluniau tebyg i ddychwelyd torfeydd i stadiymau.

Mae Cymru eisoes wedi chwarae yn erbyn Iwerddon tu ôl i ddrysau caeedig Stadiwm Principality

‘Dim rheswm pam gallem ni ddim ennill’

Wrth edrych ymlaen at wynebu Lloegr ddydd Sadwrn mae’r blaenasgellwr yn cydnabod fod gêm “galed iawn” yn wynebu Cymru.

“Ni’n gwybod fod hi’n mynd i fod yn gêm galed iawn, mae Lloegr yn un o’r timau gorau yn y byd,” meddai Justin Tipuric.

Er i Loegr golli eu gem agoriadol yn erbyn yr Alban eleni, nhw enillodd Pencampwriaeth y Chwe Gwlad a Chwpan Cenhedlodd yr Hydref y llynedd.

“Maen nhw’n gwneud y pethau sylfaenol yn arbennig o dda, ac yn gwybod sut i ennill gemau felly ni’n gwybod fod gêm galed o rygbi o’n blaenau ni.

“Yn amlwg rydym ni wedi rhoi ein hunain mewn lle da ar gyfer y twrnamaint, ond mae rhaid i ni gymryd un gêm ar y tro.

“Os gallwn ni wneud y pethau sylfaenol yn iawn does dim rheswm pam gallem ni ddim mynd ymlaen i ennill.”

Cymru v Lloegr ar S4C brynhawn dydd Sadwrn gyda’r gic gyntaf am 4.45.

Cardiau coch diweddar ddim yn syndod i hyfforddwr blaenwyr Cymru

Lleu Bleddyn

“Ond mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr nad ni sy’n derbyn rhai,” meddai Jonathan Humphreys