Mae rhediad gwych Mick McCarthy fel rheolwr Caerdydd yn parhau wrth i’r Adar Gleision guro Bournemouth 2-1 neithiwr (nos Fercher, Chwefror 24) i ddringo i chwech uchaf y Bencampwriaeth.

Roedd peniad Sean Morrison a chic o’r smotyn gan Kieffer Moore wedi rhoi Caerdydd mewn rheolaeth ar yr egwyl.

Llwyddodd Shane Long, yr ymosodwr sydd ar fenthyg o Southampton, i dynnu un yn ôl i Bournemouth, ond daliodd dynion Mick McCarthy ymlaen i sicrhau eu chweched buddugoliaeth yn olynol.

Mae’r canlyniad yn golygu eu bod wedi codi heibio Bournemouth yn y Bencampwriaeth, i mewn i’r safleoedd gemau ail-gyfle.

Roedd y clwb yn y 15fed safle pan gafodd Mick McCarthy ei benodi fel olynydd Neil Harris ym mis Ionawr.

Ers hynny, mae Caerdydd wedi ennill 20 o bwyntiau o wyth gêm.

Dyma oedd y tro cyntaf ers i Mick McCarthy gyrraedd i Gaerdydd wynebu tîm oedd yn uwch na nhw yn y gynghrair.

Ac eto, llwyddodd y tîm i sgorio gyda’u cyfle cyntaf o’r gêm, wrth i Sean Morrison godi’n rymus i gwrdd â chic gornel Harry Wilson, a phenio i gefn y rhwyd.

Ac yna’n dilyn tacl flêr gan Diego Rico ar asgellwr cefn Caerdydd, Perry Ng, sgoriodd Kieffer Moore ei 15fed gôl o’r tymor.

“Dw i’n hapus iawn gyda’r perfformiad,” meddai Mick McCarthy.

“Roeddwn i’n meddwl ein bod yn haeddu mynd ar y blaen – ni oedd y tîm gorau yn yr hanner cyntaf – ac roeddwn i’n disgwyl ymateb ganddyn nhw, a dyna gawsom.

“Dw i’n dysgu am y chwaraewyr. Dw i wedi canfod eu bod yn griw gwych o hogiau sy’n barod iawn i weithio’n galed ond sydd â lot o allu hefyd.”