Enillodd Abertawe o gôl i ddim yn erbyn Coventry neithiwr (nos Fercher, Chwefror 24) i gadw’r pwysau ar y ddau uchaf yn y ras am ddyrchafiad awtomatig o’r Bencampwriaeth.

Roedd Abertawe’n chwilio am ymateb ar ôl cael ei syfrdanu dros y penwythnos gan Huddersfield Town, wnaeth guro’r Elyrch 4-1.

Rhoddodd y Cymro Ben Cabango y tîm oddi-gartref ar y blaen ar ôl 54 munud wrth iddo benio cic gornel Conor Hourihane i gefn y rhwyd.

Doedd Abertawe ddim ar eu gorau ond llwyddon nhw i ennill yn weddol gyfforddus.

Mae’r fuddugoliaeth yn cadw Abertawe’n bedwerydd, dim ond pwynt o’r safleoedd dyrchafiad awtomatig gyda dwy gêm mewn llaw ar Brentford, sydd yn yr ail safle.

Dywedodd rheolwr Abertawe Steve Cooper: “Roeddwn i’n meddwl ein bod ni’n haeddu’r fuddugoliaeth, gan mai ni oedd y tîm a greodd y cyfleoedd go iawn yn y gêm.

“Roeddwn i’n meddwl ein bod wedi creu nifer o gyfleoedd yn y gêm i’w hennill yn fwy cyfforddus mewn beth oedd yn gêm galed.”