Mae Wayne Pivac, Prif Hyfforddwr Cymru, wedi enwi’i dîm i wynebu Lloegr yn Stadiwm Principality brynhawn Sadwrn.
Mae pump newid i’r tîm gurodd yr Alban o bwynt, 25-24, bythefnos yn ôl.
Ar ôl dychwelyd o anafiadau Jonathan Davies a George North fydd yn dechrau fel canolwyr.
Golyga hyn y bydd North yn ennill ei ganfed cap i Gymru a bydd Jonathan Davies yn chwarae ei gêm gyntaf yn y bencampwriaeth eleni.
Roedd cystadleuaeth frwd yng nghanol cae gyda Willis Halaholo, Owen Watkin, Nick Tompkins a Johnny Williams hefyd yn cystadlu am le. Ond y chwaraewyr profiadol sydd wedi eu dewis i ddechrau gyda Willis Halaholo ar y fainc.
Ar ôl chwarae’n dda oddi ar y fainc yn erbyn yr Alban Kieran Hardy sydd wedi ei ddewis fel mewnwr gyda Gareth Davies yn cymryd ei le ar y fainc.
Bydd Josh Adams yn dychwelyd am y tro cyntaf ôl cael ei wahardd am ddwy gêm gan ymuno â Louis Rees-Zammit ar yr asgell.
Ond ar ôl dioddef cyfergyd yn erbyn yr Alban does dim lle i Leigh Halfpenny yn y tîm, Liam Williams sydd yn dechrau fel cefnwr.
Dim ond un newid sydd ymhlith y blaenwyr, ar ôl methu’r gêm ddiwethaf oherwydd anaf i’w wddf mae Josh Navidi yn ail ymuno â’r rheng ôl.
Mae Cymru yn ail yn y tabl ar hyn o bryd y tu ôl i Ffrainc, ac ar ôl curo Iwerddon a’r Alban gallai Cymru ennill y Goron Driphlyg pe bai nhw’n trechu Lloegr brynhawn Sadwrn.
Tîm Cymru
Olwyr: 15. Liam Williams, 14. Louis Rees-Zammit, 13. George North, 12. Jonathan Davies, 11. Josh Adams, 10. Dan Biggar, 9. Kieran Hardy
Blaenwyr: 1. Wyn Jones, 2. Ken Owens, 3. Tomas Francis, 4. Alun Wyn Jones (C), 5. Adam Beard, 6. Josh Navidi, 7. Justin Tipuric, 8. Taulupe Faletau
Eilyddion: 16. Elliot Dee, 17. Rhodri Jones, 18. Leon Brown, 19. Corry Hill, 20. James Botham, 21. Gareth Davies, 22. Callum Sheedy, 23. Willis Halaholo
Tîm Lloegr
Wrth gyhoeddi tîm profiadol i wynebu Cymru dywedodd Prif Hyfforddwr Lloegr Eddie Jones fod y “gorau eto i ddod” gan Loegr.
Ar ôl colli yn erbyn yr Alban ar benwythnos agoriadol y gystadleuaeth fe gurodd Lloegr yr Eidal yn hwylus bythefnos yn ôl.
“Mae Cymru yn gêm ac yn gystadleuaeth arbennig iawn. Mae hanes hir rhwng y ddwy wlad ac mae’r gêm yn golygu llawer i’r ddwy wlad,” meddai.
“Rydyn ni’n gwybod y byddwn ni’n wynebu her gref y Cymry ddydd Sadwrn, ond rydyn ni wedi gweithio’n galed iawn yr wythnos hon ac mae gennym dîm da iawn i’w wynebu.
“Rydyn ni eisiau dangos i bobol beth rydyn ni’n gallu ei wneud, parhau i adeiladu a gallaf eich sicrhau bod y gorau eto i ddod gan y tîm hwn.”
Olwyr: 15. Elliot Daly, 14. Anthony Watson, 13. Henry Slade, 12. Owen Farrell, 11. Jonny May, 10. George Ford, 9. Ben Youngs
Blaenwyr: 1. Mako Vunipola, 2. Jamie George, 3. Kyle Sinckler, 4. Maro Itoje, 5. Jonny Hill, 6. Mark Wilson, 7. Tom Curry, 8. Billy Vunipola
Eilyddion:16. Luke Cowan-Dickie, 17. Ellis Genge, 18. Will Stuart, 19. Charlie Ewels, 20. George Martin, 21. Ben Earl, 22. Dan Robson, 23. Max Malins
Gemau Cymru yn y Chwe Gwlad:
Cymru v Iwerddon | 21-16 | Stadiwm Principality | Chwefror 7 |
Yr Alban v Cymru | 24-25 | Stadiwm Murrayfield | Chwefror 13 |
Cymru v Lloegr | Stadiwm Principality | Chwefror 27 | |
Yr Eidal v Cymru | Stadio Olimpico | Mawrth 13 | |
Ffrainc v Cymru | Stade de France | Mawrth 20 |
Cymru v Lloegr ar S4C brynhawn dydd Sadwrn gyda’r gic gyntaf am 4.45.