Ers degawd a mwy mae George North wedi bod yn gonglfaen i dîm rygbi Cymru a’r penwythnos hwn bydd yn ennill ei ganfed cap i Gymru pan fydd yn wynebu Lloegr ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Yn 28 oed, North yw’r chwaraewr ieuengaf yn hanes y gêm i ennill cant o gapiau i’w wlad, a dim ond y chweched Cymro i gyrraedd y garreg filltir.

Ers ennill ei gap cyntaf yn ddeunaw oed yn erbyn De Affrica yn 2010, mae North wedi mynd yn ei flaen i sgorio 42 o geisiau i Gymru ac mae’n gyflym gau’r bwlch ar record cyn-asgellwr Cymru, Shane Williams, sef 58 o geisiau.

Ond ar ôl treulio mwyafrif o’i yrfa yn chwarae ar yr asgell, mae pennod newydd ar gychwyn i’r chwaraewr a ddaw yn wreiddiol o Sir Fôn – a hynny yng nghanol cae.

“Mae fel petai wedi cael bywyd newydd, ac mae’r sialens o symud i’r canol wedi ei gyffroi,” meddai Prif Hyfforddwr Cymru Wayne Pivac.

“Mae wedi ymateb yn dda iawn i’r sialensiau sydd yn ei wynebu ac mae’n dweud llawer amdano.

“Mae ei awch i chwarae dros ei wlad yn anhygoel, oherwydd yr agwedd yna dwi’n ffyddiog y gallai ennill ymhell dros gant o gapiau.”

‘Mae ’na lot mwy o rygbi ar ôl yn George’

Yn ôl Stephen Jones, a chwaraeodd gyda North, ac sydd bellach yn hyfforddwr ymosod y tîm cenedlaethol, roedd talent North yn amlwg o’r cychwyn cyntaf.

“Mae’n anhygoel i feddwl iddo ddechrau pan yn ddeunaw, sbel fach yn ôl, ac yn ffodus mi chwaraeais yn y gêm yna [yn erbyn De Affrica yn 2010] pan sgoriodd ddau gais,” cofia Stephen Jones.

“Oedd pawb yn sylwi pa mor dalentog odd e, a pa mor gorfforol oedd e, ond wrth gwrs fel chwaraewyr rhaid i chi ddatblygu a gweithio’n galed.

“Be sy’n dda o safbwynt George yw pa mor broffesiynol mae wedi bod yn datblygu ei gêm bob blwyddyn i wneud yn siŵr ei fod yn llwyddiannus.

“Mae wedi cael gyrfa wych hyd yn hyn, ac mae ’na lot mwy o rygbi ar ôl yn George.

“Mae ei agwedd at y gêm a’i awydd i ddysgu yn amlwg, a dyna sy’n bwysig – gyd fi’n gallu gwneud yw ei ganmol.”

Cyfergydau

Er i George North ddweud y llynedd mai cyrraedd y garreg filltir yma oedd un o’i “dargedau mwyaf” doedd y llwybr i gant o gapiau ddim yn un hwylus iddo bob tro – er ei faint a’i gryfder mae wedi dioddef o chwech cyfergyd yn ystod ei yrfa.

Daeth y diweddaraf o rheini ym munudau cyntaf y gêm yn erbyn Ffrainc yn y Chwe Gwlad y llynedd.

Cyn hynny dioddefodd gyfergyd yn 2016 tra’n chwarae i Northampton, a chafodd bedwar anaf i’w ben o fewn pum mis rhwng mis Tachwedd 2014 a mis Mawrth 2015 – bu rhaid iddo dreulio pum mis i ffwrdd o’r gêm bryd hynny.

Er bod rhai arbenigwyr wedi galw arno i gymryd cyfnod estynedig i ffwrdd o’r gêm, neu hyd yn oed ymddeol yn gynnar, mae’n mynnu ei fod wedi cymryd camau priodol i leihau effeithiau hir dymor cyfergydion yn ystod ei yrfa.

Yn ystod y misoedd diwethaf, mae nifer o gyn-chwaraewr yn honni fod y gamp wedi eu gadael gyda niwed parhaol gan gynnwys arwyddion cynnar dementia.

George North yn rhedeg gyda'r bel
Ennillodd George North ei gap cyntaf yn erbyn De Affrica yn 2010

‘Yn ôl ar frig ei gêm’

Mae Ken Owens, bachwr Cymru a’r Scarlets, wedi canmol “dyfalbarhad” ei gyd chwaraewr yn ystod ei yrfa gyda Chymru a thu hwnt.

“Mae George wedi bod yn chwaraewr gwych i Gymru, gyda’r Scarlets yn wreiddiol, yna Northampton a nawr mae’n gwneud yr un peth gyda’r Gweilch,” meddai.

“Mae’n wych ei weld yn ôl ar frig ei gêm y tymor hwn, mae’n chwaraewr o ansawdd uchael ac mae e fel pob un ohonom yn barod i ddysgu a bob amser eisiau gwella.

“Efallai fod hi ychydig yn annheg dweud ei fod yn dechrau pennod newydd, oherwydd mae wedi bod yn chwaraewr o ansawdd drwy gydol ei yrfa, efallai ei fod wedi cael cyfnodau tawelach lle nad yw’n croesi’r llinell cymaint, ond efallai fod pobol ddim yn sylwi cymaint mae’n ei gynnig i’r tîm.”

Ar ôl perfformiadau siomedig yn ystod Cwpan Cenhedloedd yr Hydref y llynedd cafodd George North ei ryddhau o garfan Cymru i wella agweddau o’i gêm.

“Dw i’n meddwl efallai fod y feirniadaeth mae wedi ei gael wedi bod ychydig yn annheg,” ychwanegodd Ken Owens.

“I ni sy’n chwarae gydag ef wythnos ar ôl wythnos mae modd gweld ei egni, ei waith oddi ar y bêl ac yn y llinell amddiffynnol, a’i ddyfalbarhad sydd efallai’n mynd yn ddi-sylw.”

Ar ôl dechrau ei yrfa ryngwladol yn ei arddegau mae’n anodd cofio cyfnod pan nad oedd George North yn rhan allweddol o’r garfan – mae wedi cynrychioli Cymru mewn tri Chwpan Rygbi’r Byd, ennill dwy Gamp Lawn a theithio gyda’r Llewod – hawdd hefyd yw anghofio mai dim ond 28 oed yw’r chwaraewr profiadol.

76 cap oedd gan Alun Wyn Jones pan oedd yntau’n 28 – a fe, bellach, yw’r chwaraewr rhyngwladol â’r nifer mwyaf o gapiau yn hanes y gêm – 154 hyd yma.

Os yn ffit ac yn iach pwy a wyr beth gallai North ei gyflawni yn ei safle newydd ac yn ystod y bennod nesaf o’i yrfa.

Jonathan Davies a George North yn dychwelyd i wynebu Lloegr

Mae Wayne Pivac, Prif Hyfforddwr Cymru, wedi enwi’i dîm i wynebu Lloegr yn Stadiwm Principality brynhawn Sadwrn