Mae Asda wedi dechrau ymgynghori gyda thua 5,000 o staff ynglŷn a chynlluniau ail-strwythuro a allai roi 3,000 o swyddi yn swyddfeydd y cwmni archfarchnad yn y fantol.
Dywed Asda bod y cynllun ail-strwythuro sylweddol o ganlyniad i’r newid mewn arferion siopa pobl wrth brynu bwyd ar-lein yn ystod y pandemig.
Yn ôl y cwmni maen nhw hefyd yn bwriadu creu tua 4,500 o swyddi yn eu gwasanaethau ar-lein eleni a’u bod yn gobeithio recriwtio staff sydd wedi’u heffeithio gan yr ail-strwythuro.
“Addasu’n gyflym”
Dywedodd prif weithredwr a llywydd Asda, Roger Burnley, mai eu blaenoriaeth oedd “gwasanaethu cwsmeriaid yn y modd maen nhw eisiau siopa gyda ni.”
“Mae’r 12 mis diwethaf wedi dangos bod yn rhaid i fusnesau fod yn barod i addasu’n gyflym i newid a dw i’n hynod o falch o’r ffordd ry’n ni wedi dangos ein parodrwydd i wneud hynny yn ystod y pandemig.”
Ychwanegodd y byddan nhw’n cynnig cymorth i’w staff yn ystod y broses ymgynghori.
“Fe fydd ein cynlluniau i drawsnewid y busnes yn creu mwy o swyddi na’r hyn ry’n ni’n bwriadu colli a’n bwriad yw sicrhau bod cymaint o’n gweithwyr yn aros gyda ni, yn ogystal â chreu’r cyfle i groesawu pobl newydd i’r busnes,” meddai.