Mae pobl sy’n byw yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro yn cael eu hannog i gael prawf Covid-19, os oes ganddyn nhw ystod ehangach o symptomau.

Yn ôl Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, y bwriad yw eu galluogi i ddod o hyd i achosion cudd o’r feirws sy’n lledaenu’n anhysbys yn eu cymunedau a lleihau trosglwyddiadau.

Bydd y drefn brofi newydd yn cael ei gynnal am o leiaf 28 diwrnod i ddechrau, cyn cael ei adolygu.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe hefyd yn ehangu’r cynnig o brofi yn yr un modd.

Symptomau ychwanegol

Yn flaenorol, dim ond y rhai sydd â thymheredd uchel, peswch parhaus newydd, neu golli/newid blas ac arogl a gynghorwyd i gael prawf.

Erbyn hyn, mae’r bwrdd iechyd hefyd yn annog pobol i drefnu prawf os oes ganddyn nhw unrhyw un o’r symptomau canlynol:

  • poen yn y cyhyrau
  • blinder gormodol
  • cur pen parhaus
  • trwyn yn rhedeg
  • tisian yn barhaus
  • dolur gwddf neu / a
  • prinder anadl neu wichiad.

“Darlun cadarnhaol ar draws y tair sir”

Mewn datganiad, dywedodd Alison Shakeshaft, Cyfarwyddwr Therapïau a Gwyddor Iechyd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda:

“Ar y cyfan, rydym yn gweld darlun cadarnhaol ar draws y tair sir a bu cwymp cyson yn nifer yr achosion Covid-19.

“Hefyd, mae’r galw am brofion wedi gostwng yn sylweddol ers diwedd 2020, felly mae gennym y gallu i ehangu’r cynnig o brofi i’r rheini sydd ag ystod ehangach o symptomau.

“Rydym yn gwybod bod y grŵp ehangach o symptomau yn digwydd gyda Covid-19 ond nid ydynt yn cael eu hadrodd mor aml â’r tri symptom arferol.

“Gyda chyfraddau isel iawn o ffliw yn cylchredeg ar hyn o bryd, mae’n fwy tebygol bod symptomau ehangach tebyg i ffliw oherwydd Covid-19.

“Ein nod yw dod o hyd i gynifer o achosion COVID-19 â phosibl fel y gallwn atal y feirws rhag cael ei drosglwyddo i eraill. Rydyn ni eisiau gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu i ddod â’r pandemig i ben mor gyflym â phosib a helpu i godi’r cyfyngiadau.”

Trefnu prawf

Mae’r Bwrdd Iechyd wedi annog unrhyw un sydd a’r symptomau uchod i aros adref ac i drefnu prawf.

Mae’n rhaid trefnu prawf drwy system ganolog ac felly mae’n debygol y gofynnir yn awtomatig am y tri symptom cyffredin.

Os oes angen trefnu prawf oherwydd unrhyw symptom o’r rhestr estynedig, dywedwch fod eich cyngor lleol wedi gofyn i chi gael prawf neu eich bod chi’n rhan o brosiect peilot y llywodraeth.

Ar ôl cael eich prawf, mae’n rhaid parhau i hunanynysu nes derbyn eich canlyniad, a fydd fel arfer o fewn 24 awr.

Os yw’r canlyniad yn bositif, bydd rhaid  hunanynysu am 10 diwrnod o’r dyddiad y dechreuodd y symptomau.

Bydd y Tîm Olrhain lleol yn cysylltu wedi hynny.

Os yw’r canlyniad yn negyddol, bydd modd dod a’r cyfnod hunanynysu i ben.