Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cyhuddo dyn o lofruddio dynes 68 oed yn Noc Penfro dros y penwythnos.

Cafwyd hyd i gorff Judith Rhead mewn tŷ yn Stryd y Farchnad, Doc Penfro ddydd Sadwrn, Chwefror 20.

Fe fydd Dale Morgan, 43, yn mynd gerbron Llys Ynadon Llanelli heddiw (dydd Iau, Chwefror 25).