Mae Plaid Cymru wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o’i gwneud yn anodd i graffu’n effeithiol ar ei gwaith oherwydd yr “amseroedd ymateb poenus o araf i gwestiynau ysgrifenedig”.

Mae Rhun ap Iorwerth AoS, Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru dros Iechyd a Chyllid, wedi dweud iddo ddisgwyl misoedd am ateb gan Lywodraeth Cymru i’w e-byst.

Mewn un achos, mae’n honni ei bod hi wedi cymryd 23 wythnos i Lywodraeth Cymru ymateb i apêl i’w gwneud hi’n orfodol i wisgo mygydau mewn archfarchnadoedd.

Erbyn i’r ymateb ddod, roedd y rheol gwisgo mwgwd eisoes wedi bod ar waith ers 21 wythnos.

Mewn enghraifft arall, anfonwyd dau e-bost at Lywodraeth Cymru ar Fehefin 18 2020 ynghylch pryderon am oedi cyn derbyn canlyniadau profion, a derbyn canlyniadau profion mewn camgymeriad.

Dywed Rhun ap Iorwerth ei fod wedi disgwyl wyth mis cyn cael ateb.

“Ymateb poenus o araf”

“Maen nhw’n dweud bod diwrnod yn amser hir mewn gwleidyddiaeth, dychmygwch faint all newid mewn pum mis, ac eto dyma faint o amser y gall ei gymryd i gael ymateb i gwestiwn ysgrifenedig gan Lywodraeth Lafur Cymru.

“Mae gwefan ein Senedd yn dweud ‘Mae craffu effeithiol ar y llywodraeth wrth wraidd unrhyw broses ddemocrataidd’ ond byddwn yn dadlau bod hyn yn cael ei lesteirio’n ddifrifol gan yr amseroedd ymateb poenus o araf i gwestiynau ysgrifenedig.

Wrth alw am amseroedd ymateb cyflymach, cwestiynodd Rhun ap Iorwerth y defnydd o adnoddau wrth baratoi ymatebion mor hir.

“Nid yw’r amser a dreulir yn ateb yr alwad benodol hon am newidiadau rheoleiddiol, pan oedd cymaint o amser wedi mynd heibio, yn gwneud fawr o synnwyr.

“Byddai’n well gen i gael ateb byr ac amserol nag un hir sydd wedi mynd heibio i’w ddyddiad gwerthu.”

Llywodraeth Cymru’n mynnu ei fod yn ymateb “cyn gynted â phosibl”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Ers mis Chwefror 2020, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn arwain ymateb Cymru i’r argyfwng iechyd cyhoeddus mwyaf ers datganoli.

“Ers dechrau pandemig y coronafeirws, rydym wedi gweld cynnydd o 350% yn lefel yr ohebiaeth a gawn gan Aelodau’r Senedd ac aelodau o’r cyhoedd.

“Rydym yn ymateb i ohebiaeth, cwestiynau a cheisiadau eraill am wybodaeth cyn gynted â phosibl.

“Fodd bynnag, mae’r staff sy’n rheoli ein hymateb i’r pandemig hefyd yn gyfrifol am ymateb i ohebiaeth a busnes arall y llywodraeth.

“Ein blaenoriaeth gyntaf fu sefydlu cyfres ddigynsail o fesurau i achub bywydau a bywoliaethau.

“Er mwyn caniatáu i Aelodau o’r Senedd graffu ar waith Llywodraeth Cymru, a helpu’r cyhoedd i ddeall y mesurau rydym wedi’u rhoi ar waith, rydym wedi cymryd ymagwedd fwriadol i sicrhau bod casgliad cynhwysfawr o wybodaeth ac arweiniad am ein dull o fynd i’r afael â’r coronafeirws ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

“Mae hyn yn cynnwys Cwestiynau Cyffredin, yr ystadegau diweddaraf a’r cyngor gwyddonol a meddygol diweddaraf.”