Mae’r Comisiynydd Plant, yr Athro Sally Holland, wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o “fethu” a gwarchod hawliau plant sy’n cael addysg gartref ac mewn ysgolion annibynnol.

Dywedodd adroddiad y Comisiynydd Plant “nad yw Llywodraeth Cymru wedi cydymffurfio â’i dyletswyddau cyfreithiol”.

Daw hyn ddeng mlynedd yn dilyn marwolaeth Dylan Seabridge, fu farw o sgyrfi yn 2011.

Yn ôl y Sally Holland, ni lwyddodd Llywodraeth Cymru i “ymateb yn ddigonol” i’w farwolaeth.

Roedd gweinidogion wedi ymrwymo i wneud gwelliannau i’r rheoliadau addysgu gartref, ond bu’n rhaid rhoi stop ar y cynlluniau y llynedd yn sgil pandemig y coronafeirws.

Byddai hyn wedi ei gwneud yn orfodol i awdurdodau lleol greu cofrestr o blant sydd ddim yn mynychu ysgol er mwyn sicrhau bod swyddogion yn cynnal ymweliadau.

“Dw i ddim eisiau taro bai ar unigolion yn y Llywodraeth, ond ar draws y Llywodraeth dw i ddim yn gweld eu bod wedi bod yn gadarn na’n ddigon clir am gamau angenrheidiol ar ddau fater,” meddai’r Athro Sally Holland wrth siarad â rhaglen ‘Dros Frecwast’ BBC Radio Cymru.

“Rydan ni wedi gweld cylch o oedi gyda dau fater, ynghylch ymgynghoriad a dim camau ymlaen sy’n ddigon mawr na’n ddigon clir wrth ymateb i farwolaeth drist Dylan Seabridge.”

Dyma’r tro cyntaf i swyddfa’r Comisiynydd Plant ddefnyddio ei phwerau cyfreithiol i adolygu Llywodraeth Cymru.

Ysgolion annibynnol

Yn ogystal a phlant sy’n cael addysg gartref, mae’r adroddiad yn rhoi sylw i blant mewn ysgolion annibynnol.

Nid yw’n ofynnol i staff ysgolion annibynnol gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg i Gymru, sef rheoleiddiwr annibynnol staff addysg, ar hyn o bryd.

O ganlyniad i hyn, nid yw Cyngor y Gweithlu Addysg yn gallu ymateb i bryderon am athrawon neu staff.

Dywedodd fod “fawr ddim newidiadau ystyrlon” wedi bod yng Nghymru ers i reoliadau gael eu cyflwyno yn 2003.

Mae’r Llywodraeth “wedi methu â gwneud unrhyw newidiadau o’r fath, a hynny er gwaethaf achos difrifol a gododd yn 2019 mewn ysgol annibynnol yn Sir Ddinbych. Amlygodd gweithwyr proffesiynol a fu’n ymwneud â’r achos hwnnw pa mor wahanol byddai’r achos wedi cael ei drin petai ymddygiad y pennaeth wedi digwydd mewn ysgol a gynhelid,” meddai.

“Fy mhryder i yw bod yr oedi yn yr achosion hyn wedi digwydd dros gyfnod hir, ac y gallai hynny barhau mewn blynyddoedd i ddod os na wneir ymdrech bendant,” meddai’r comisiynydd.

“Mae camau gweithredu a bwriadau llywodraethau olynol wedi bod yn rhy betrus, heb ddigwydd yn ddigon cyflym, ac yn y pen draw wedi bod yn aneffeithiol o safbwynt diwygio ystyrlon.

“Mae’n gwbl hanfodol i blant yng Nghymru bod y materion hyn yn derbyn sylw yn ystod tymor nesaf y Senedd, a hynny mewn modd penderfynol, eglur a thryloyw.

“Allwn ni ddim edrych yn ôl ymhen degawd arall a chanfod ein bod yn dal heb symud ymlaen fel gwlad.”

Llywodraeth Cymru “wedi gorfod newid ei ffocws yn sylfaenol”

Dywedodd llefarydd Llywodraeth Cymru: “Rydym yn cymryd y cyfrifoldeb am ddiogelu hawliau plant sy’n derbyn addysg yn y cartref a’r rhai mewn ysgolion o ddifrif.

“Mae’r Prif Weinidog a’r Gweinidog Addysg ill dau wedi mynegi eu siom nad yw’r Llywodraeth wedi gallu datblygu’r gwaith pwysig hwn sydd wedi’i gynllunio – mewn amgylchiadau arferol, byddai gwaith wedi bod bron â’i gwblhau erbyn hyn.

“Fodd bynnag, nid ydym mewn amgylchiadau arferol ac mae’r Llywodraeth wedi gorfod newid ei ffocws yn sylfaenol gan gael effaith ar gwblhau’r gwaith hwn.

“Rydym wedi nodi’r canfyddiadau yn yr adolygiad a byddwn yn ystyried yr adroddiad yn fanwl cyn ymateb yn fwy ffurfiol.”