Parhau mae’r trafodaethau am ddyfodol hir dymor ffatri Vauxhall yn Ellesmere Port yn Swydd Gaer.

Mae’r ffatri geir yn cyflogi 1,000 o weithwyr, nifer ohonyn nhw o ogledd ddwyrain Cymru.

Mae’n debyg bod penaethiaid o Stellantis, rhiant gwmni Vauxhall, wedi bod yn cwrdd i drafod tynged y ffatri, ac mae disgwyl cyhoeddiad yn y dyddiau nesaf.

Roedd Carlos Tavares, prif weithredwr Stellantis, a gafodd ei ffurfio ar ôl i Fiat Chrysler a PSA uno, wedi dweud y gallai penderfyniad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i wahardd gwerthiant ceir petrol a disel ar ôl 2030 “ddinistrio’r model busnes.”

Mae wedi galw ar y Llywodraeth i ddangos “awydd i ddiogelu rhyw fath o ddiwydiant ceir yn y wlad.”

Fis diwethaf dywedodd Carlos Tavares y byddai cyhoeddiad yn cael ei wneud “o fewn yr wythnosau nesaf” i benderfynu a yw’r cwmni am fuddsoddi mewn cynhyrchu cerbydau trydan yn y DU.