Mae cwpwl sydd wedi eu beirniadu yn ddiweddar am gynnig tŷ yng Ngwynedd fel gwobr mewn raffl wedi ymateb i’r pryderon.
Ar ôl cynnig bwthyn Cwellyn ger Cricieth fel gwobr y llynedd mae Ryan McLean a Katherine Jablonowska nawr yn helpu eu cyn-cymdogion i wneud yr un peth.
Daw hyn wrth i Gyngor Gwynedd wynebu “argyfwng tai” a mabwysiadu sawl cynllun er mwyn sicrhau cartrefi fforddiadwy i drigolion lleol.
“Dw i’n ymwybodol iawn o’r pryderon gan bobol yn sgil yr argyfwng tai diweddar, digwyddodd rywbeth tebyg yng Nghanada pan oeddwn i’n tyfu fyny yno” meddai Ryan McLean wrth golwg360.
“Penderfynom werthu ein bwthyn ni yn y modd yma yn wreiddiol er mwyn codi arian i elusen The Children’s Society sydd yn agos iawn at ein calonnau.”
Ar ôl trosglwyddo bwthyn Cwellyn i’r ennillydd yn ddiweddar mae’r cwpl, oherwydd y cyfyngiadau Covid-19, wedi gorfod symud i fyw gyda theulu yn nwyrain Lloegr dros dro.
Mae’r ddau yn gobeithio dychwelyd i’r gogledd yn y dyfodol agos a gwireddu eu breuddwyd o agor bwyty yno.
‘Cariad tua’r ardal’
“Fedra i ddim egluro cymaint o gariad sydd gennym i’r ardal, nid rhywle dros dro ydy’r lle i ni, mae’n rywle rydym ni eisiau byw ac eisiau dychwelyd iddo yn fuan.
“Roedd hi’n brofiad anhygoel i ni werthu’r tŷ yn y ffordd wnaethom ni, roeddem yn rhan o’r gymuned leol ond doedd dim yn gallu ein paratoi ni ar gyfer yr ymateb, roeddem wedi ein llethu gan y gefnogaeth.
“Ond fel cogydd mae wedi bod yn anodd iawn dod o hyd i waith yn ddiweddar oherwydd y cyfyngiadau, felly penderfynom sefydlu’r cwmni ymgynghori [Cwellyn Dream Raffle Management] i helpu pobol sy’n awyddus i wneud yr un peth a ni.”
Ar ôl i’w cyn-cymdogion David a Christine Jones “gael trafferth” gwerthu tŷ fferm Cefn Isa ger pentref Rhoslan i fod yn agosach at eu teulu penderfynodd y ddau, dan arweiniad Ryan McLean a Katherine Jablonowska, rafflo eu tŷ.
“Nid mater o wrthwynebu’r argyfwng tai yw hyn, mae’n ymwneud mwy â helpu pobol sydd angen gwerthu eu cartref, ac yn cael trafferth gwneud hynny,” eglura Ryan McLean.
“Dydw i ddim yn mynd i anwybyddu’r ffaith fod yr argyfwng tai yn fater difrifol, ond os nad oes cynigion mae’n gallu bod yn sefyllfa anodd iawn i bobol aros.”
£115,000 o gostau gweinyddol
Ar ôl cael ei brynu gan y perchnogion presennol am £200,000 yn 2019, mae tŷ fferm Cefn Isa bellach werth £485,000.
Er mwyn i’r bwthyn gael ei roi fel y wobr, bydd angen gwerthu 130,000 o docynnau am £5, fel arall bydd gwobr ariannol yn cael ei roi gydag 20% yn cael ei dynnu ar gyfer ‘ffioedd gweinyddu’.
Mae gwerthu 130,000 o docynnau yn gyfystyr a £650,000 ac yn ôl y cwmni bydd £115,000 yn talu am gostau gweinyddol, cyfreithiol a marchnata, £40,000 yn mynd tuag at ‘ffioedd trosglwyddo masnachol’ (“merchant gateway fees”) a £10,000 yn cael ei wobrwyo i’r person sy’n gwerthu’r nifer mwyaf o docynnau raffl.
Daw’r gystadleuaeth i ben ar Fehefin 8.
Prisiau ar gynnydd, a’r sefyllfa tai haf
Mae’r tŷ fferm yn adlewyrchu cynnydd ym mhrisiau tai yng Nghymru.
Y llynedd cododd cyfartaledd pris tŷ yng Nghymru 8.2%, y cynnydd uchaf mewn 15 mlynedd. Y pris cyfartalog erbyn hyn yw £209,723, y tro cyntaf erioed i’r pris cyfartalog fod dros £200,000.
Yn ogystal, mae sefyllfa ail gartrefi Cymru yn bwnc llosg, mae cryn bryderon eu bod yn cael effaith ar brisiau tai mewn cymunedau Cymraeg.
Mae hynny yn ei dro, meddai ymgyrchwyr, yn arwain at Gymry ifanc yn gorfod gadael cadarnleoedd yr iaith, ac felly at ddirywiad y Gymraeg.
Rhwng Mawrth 2019 ac Ebrill 2020, roedd 38% o eiddo a gafodd ei werthu yng Ngwynedd yn destun cyfradd uwch y dreth preswyl o dan y Dreth Trafodiadau Tir, cyfradd sy’n cael ei thalu ar ail gartrefi ac eiddo prynu-i-osod ymhlith eraill, yn ôl ystadegau diweddaraf.
Dyma’r ffigwr uchaf yng Nghymru, yn ôl Awdurdod Cyllid Cymru.
Ac mae data tai Cyngor Gwynedd yn dangos bod 59% o bobol y sir yn methu fforddio prynu tai yno.
Mae sawl un wedi nodi pryderon am rafflo tŷ mewn ardal lle na all llawer fforddio prynu tai.
siŵr bod ‘na ffyrdd eraill o hel pres at elusenna does, na rafflo tai mewn ardal lle mae ‘na argyfwng (ail)dai? https://t.co/z3wTJ7Ytzc
— Non Mererid (@NonMererid) February 23, 2021
Mae hyn wedi fy nghythruddo fi cymaint. ? Dyw 60% o drigolion Gwynedd yn methu fforddio prynu tŷ yn y sir, ond mae’r gystadleuaeth yma yn cael ei ddathlu. Galla unrhyw un o dros y byd ennill y tŷ. Cartref arall sydd allan o afael pobl leol. Mae rhaid rheoleiddio hyn. https://t.co/IUQCrj3wN6
— Melangell Dolma (@MelangellDolma) February 23, 2021