Mae ymweliad yr Alban â Pharis ar gyfer gornest ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ddydd Sul (Chwefror 28) wedi cael ei ohirio ar ôl i Ffrainc gadarnhau achos arall o’r coronafeirws yn eu carfan.

Mae’r gêm wedi bod mewn amheuaeth drwy’r wythnos, er bod Awdurdodau rygbi Ffrainc yn mynnu na fyddai achosion Covid-19 yn effeithio ar y Bencampwriaeth.

Gorchmynnodd y trefnwyr brofion dyddiol cyn cyhoeddi ddydd Mercher y byddai’r gêm yn Stade de France yn mynd yn ei blaen yn dilyn set lawn o ganlyniadau negyddol.

Ond, llai na 24 awr yn ddiweddarach, fe’u gorfodwyd i ohirio, gyda charfan Les Bleus wedi’i rhoi mewn cwarantîn ar ôl i Ffederasiwn Rygbi Ffrainc adrodd bod 11eg chwaraewr wedi cael ei heintio.

Bydd y newyddion yn ergyd fawr i Albanwyr Gregor Townsend, sy’n ofni y byddant heb 10 o’u sêr mwyaf os caiff y gêm ei symud i ddyddiad y tu allan i’r ffenestr ryngwladol.

Dywedodd y Chwe Gwlad mewn datganiad: “Cyfarfu Grŵp Goruchwylio Profion y Chwe Gwlad heddiw i adolygu’r sefyllfa yng ngwersyll Ffrainc.

“Fe wnaethon nhw argymell yn unfrydol y dylid gohirio gêm Ffrainc v Yr Alban. Caiff hyn ei gadarnhau yn ddiweddarach heddiw gan gyngor y Chwe Gwlad.

“Byddwn yn gweithio ar aildrefnu’r gêm hon a byddwn yn datgelu’r dyddiad maes o law.”

Mae Les Bleus yn sefyll ar frig tabl y Chwe Gwlad ar ôl dwy rownd yn dilyn buddugoliaethau yn erbyn yr Eidal ag Iwerddon.

Mae’r penwythnos nesaf eisoes wedi’i awgrymu fel dyddiad wrth gefn posibl ar gyfer y gêm ond mae Gregor Townsend yn poeni y bydd cynifer â 10 o’i berfformwyr gorau – gan gynnwys Stuart Hogg a Finn Russell – yn cael eu gwahardd rhag chwarae gan eu clybiau Saesneg a Ffrangeg.

Awdurdodau rygbi Ffrainc yn mynnu na fydd achosion Covid-19 yn effeithio’r Chwe Gwlad

Bellach mae naw o chwaraewyr Ffrainc a phum aelod o’r tîm hyfforddi, wedi profi’n bositif