Ar drothwy Dydd Gŵyl Dewi mae Prif Gwnstabl Heddlu Cleveland yn Lloegr wedi cyhoeddi blog, yn galw am gyflogi mwy o siaradwyr Cymraeg yn ein gwasanaethau cyhoeddus.
Fe gafodd y Cymro Cymraeg Richard Lewis ei benodi yn Prif Gopyn Heddlu Cleveland yn 2019, a chyn hynny roedd wedi symud fyny’r rancs yn Heddlu Dyfed-Powys, gan gychwyn yn gwnstabl yn y flwyddyn 2000 cyn gorffen ei gyfnod gyda’r llu yn Ddirprwy Brif Gwnstabl.
Yn wreiddiol o Sir Gaerfyrddin, fe gafodd Richard Lewis ysgoloriaeth Fulbright i astudio’r defnydd o ddrylliau taser yn Efrog Newydd yn 2010, ac mae hefyd wedi bod yn olygydd gwadd ar raglen enwog Today BBC Radio 4.
Ac ers iddo symud i ogledd-ddwyrain Lloegr i fyw, mae wedi cael golwg o’r newydd ar yr iaith Gymraeg.
‘Gan fy mod wedi gweithio y tu hwnt i Glawdd Offa ers dwy flynedd bellach, rwyf wedi dod i asesu dyletswyddau gwasanaethau cyhoeddus ynghylch yr iaith Gymraeg trwy berspectif newydd’ meddai Richard Lewis ar ei flog.
‘Mae’r pellter llythrennol a throsiadol o Gymru wedi helpu i mi weld y cyd-destun ehangach; sef bod angen gwneud llawer mwy i hybu defnydd o’r iaith gan ein gwasanaethau cyhoeddus.
‘Gan fy mod wedi gweithio yn y gorffennol ar y lefel uchaf yng ngwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru, mae’n wir fy mod efallai wedi bod yn rhan o’r broblem yn hytrach na rhan o’r ateb. Tra roeddwn yn gwasanaethu yng Nghymru fel heddwas, roedd hi’n rhy hawdd i roi ffocws ar fy nyletswyddau cyfreithiol o ddydd i ddydd ac i anghofio am ddyletswydd foesol i hybu’r iaith yn ehangach.’
‘Sefyllfa sensitif’
Ar ei flog mae’r heddwas yn pwyso ar brofiad personol er mwyn amlygu ei farn bod angen plismyn sy’n medru siarad Cymraeg.
‘Mewn sefyllfa sensitif fel marwolaeth teuluol mae angen heddwas sydd yn rhugl. Mae’r effaith ar deulu yn aruthrol bwysig.
‘Nid wyf yn cofio geiriau’r gweinidog, y Parchg Emlyn Dole, yng Nghwm Gwendraeth ar fore angladd fy mam-gu yn 2019, ond fe gofiaf yn glir mai gweddi yn Gymraeg ag adroddodd ar yr aelwyd, ac roedd hynny o’r pwys mwyaf i’r teulu, ac yn hollol naturiol i ni. Nid braint neu hap yw hyn – ond hawl sylfaenol a ffordd o fyw…
‘Er mwyn gwella ansawdd y gwasanaeth Cymraeg mae’n rhaid sicrhau bod mwy o siaradwyr Cymraeg yn cael eu cyflogi yn y lle cyntaf, bod gwersi Cymraeg ar gael yn hawdd i ddysgwyr mewnol, bod gwersi gloywi iaith ar gael, ac yn holl bwysig, dealltwriaeth ymhlith staff o anghenion ieithyddol y gymuned, a’r effaith bositif a ddaw o siarad yn Gymraeg gyda’r sawl sy’n dymuno gwneud hynny.’
Fe gewch y blog yn llawn yma: