Mae Rygbi’r Byd ac Awdurdod Rygbi Ffrainc wedi cyhoeddi’r amserlen gemau Cwpan Rygbi’r Byd 2023.

Yn wahanol i gystadlaethau’r gorffennol bydd cyfnodau hirach o orffwys rhwng bob gêm yn golygu y bydd y gystadleuaeth sydd yn cael ei chynnal ar draws naw dinas yn Ffrainc wythnos yn hirach.

Ffrainc a Seland Newydd fydd yn wynebu ei gilydd yng ngêm gyntaf y gystadleuaeth a hynny ym Mharis.

Bydd gemau grŵp Cymru yn cael eu cynnal yn Bordeaux, Nice, Lyon a Nantes ac felly bydd tîm Wayne Pivac yn edrych i osgoi canlyniad tebyg i’r un a welwyd yn Nantes yn ystod Cwpan Rygbi’r Byd 2007 pan gurodd Ffiji y Cymry o 38-34.

Cyhoeddwyd fis Rhagfyr fod Cymru yn yr un grŵp ag Awstralia, Fiji, a dau dîm sydd eto i gymhwyso. 

Roedd Awstralia, Ffiji a Chymru yn yr un grŵp yng Nghwpan y Byd 2015 a 2019.

Cymru orffennodd ar frig y grŵp yn 2019 ar ôl curo Awstralia 29-25 yn Tokyo gan orffen y twrnamaint yn bedwerydd golli i’r pencampwyr De Affrica yn y rownd gynderfynol.

‘Dod a’r gemau yn fyw’

“Cyhoeddiad yr amserlen gemau yw’r eiliad pan ddaw’r twrnamaint yn fyw i gefnogwyr ledled y byd ac mae’n garreg filltir gyffrous,” meddai Bill Beaumont, Cadeirydd Rygbi’r Byd.

“Mae timau a chefnogwyr wrth galon yr amserlen ac rydym yn hyderus y bydd yn darparu’r llwyfan gorau posibl ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd sy’n wefreiddiol, hanesyddol ac arbennig iawn yn 200fed flwyddyn y gamp.”

Ychwanegodd Prif Weithredwr Ffrainc 2023, Claude Atcher: “Bydd y fformat amserlen gemau newydd hwn hefyd yn darparu llwyfan tecach i’r holl dimau dan sylw.

“Rydym hefyd yn falch iawn y bydd pob un o’n naw dinas a rhanbarth yn cynnal o leiaf un gêm rownd yr wyth olaf sy’n golygu y bydd y twrnamaint, a’r cyfan sydd ganddo i’w gynnig, ar gael i’r gynulleidfa ehangaf bosibl ledled y wlad.”

Gemau Cymru yng Nghwpan Rygbi’r Byd:

Cymru v Ffiji
Stade de Bordeaux, Bordeaux
Medi 10, 2023
Cymru v enillydd rownd derfynol ragbrofol
Stade de Nice, Nice
Medi 16, 2023
Cymru v Awstralia
Parc OL,
Lyon, Medi 24, 2023
Cymru v Ewrop 1
Stade de la Beaujoire, Nantes
Hydref 7, 2023

Cymru i wynebu Awstralia a Fiji… eto

Fe fydd Cymru yn wynebu Awstralia, Fiji, a dau dîm arall sydd eto i gymhwyso yng Nghwpan Rygbi’r Byd 2023