Mae’r Athrawes Gelf a Mentergarwch, sy’n magu teulu a phaentio, hefyd yn aelod o Gyngor Tref Cricieth, Gwynedd, a fydd yn cychwyn project gyda Twm Morys a Gwyneth Glyn i ddod â’r gymuned yn agosach drwy gelf…

Pam creu Celf?

Ar hyn o bryd rwy’n ei greu er mwyn ymlacio a chael mwynhad, ac ymgolli yn rhywbeth.

Dw i’n creu i ddogfennu’r cyfnod yma o ran hunanynysu yn y cyfnod clo, yn paentio be dw i’n weld, fwy neu lai, ar y daith ddyddiol yma yn mynd am dro a chrwydro llwybrau lleol.

Pam ydach chi’n creu llieiniau sychu llestri gyda lluniau hardd o bysgod, adar a blodau arnyn nhw?

Y syniad yw creu celf er mwyn cael ei ddefnyddio, yn hytrach nag i gael ei arddangos.

A’r bwriad gyda’r llieiniau yw amlygu enwau Cymraeg a Saesneg y rhywogaethau adnabyddus o fyd natur… weithiau, d’yw pobol ddim yn gwybod yr enwau Cymraeg arnyn nhw.

Er fy mod i wedi fy magu yn Gymraeg, yn aml dydw i ddim yn gwybod yr enw ar ambell rywogaeth.

Felly dw i wedi dysgu llawer hefyd.

Dros y cyfnod clo dw i wedi gwneud llieiniau gyda phlu a nythod adar.

Pam oeddech chi am ymuno gyda Chyngor Tref Cricieth? 

Roeddwn i’n llywodraethwr gyda’r ysgol, a wnaeth rhywun ofyn i fi fynd yn gynghorydd.

Rydw i’n credu bod angen rhoi’r cyfle i bob haen o gymdeithas gyfrannu.

Hefyd, rydw i’n dysgu’r Fagloriaeth Gymraeg yng Ngholeg Meirion Dwyfor, ac mae gofyn i’r myfyrwyr wneud cyfranogiad cymunedol.

Felly trwy fod yn rhan o’r cyngor tref dw i’n ceisio datblygu’r elfen yna o gyfrannu a rhoi cyfleoedd i blant a phobol ifanc gymryd rhan.

Wnaethon ni ddechrau gŵyl gelfyddydol y flwyddyn ddiwethaf, ‘Cricieth Creadigol’, a sefydlu platfform ar y We.

Beth yw’r project diweddara’ yma gan y cyngor, ‘Enwau, Chwedlau a Chân’?

Mae Cricieth yn gyfoethog iawn o ran enwau a hanes ac ati, ac roedden ni’n teimlo bod lle i rannu hynny.

Y syniad yw cael y gymuned i fwydo hen luniau ac atgofion ar facebook, ac atgoffa pobol am hen enwau caeau ac ati.

Hefyd mae yna 150 o flynyddoedd ers sefydlu Ysgol Gynradd Treferthyr y dref.

Beth yw amcan y project?

Rydan ni’n cael ein hariannu gan Age Concern Gwynedd a Môn, felly rydan ni’n treial targedu unigrwydd yn ystod y cyfnod clo, a bod pobol yn cael rhannu profiadau a straeon ac ati.

Beth yw eich atgof cynta’?

Roeddwn i’n byw ym Mhenrhyn-coch wrth ymyl Aberystwyth, a’r atgof cynta’ falle fydde chwarae gyda fy ffrind Nia Wyn yn Nant Seilo, yn gwisgo wellies coch i fynd i greu argae a chwarae gyda rhwyd fach yn y nant.

Beth yw eich ofn mwya’?

Uchder a reids ffair cyflym.

Ydy hi’n anoddach cynnal gwers Gelf ar Zoom?

Ryden ni yn digideiddio popeth, felly mae myfyrwyr Lefel A yn cymryd ffoto o’u brasluniau, ac yn cyflwyno eu gwaith fel yna.

Mae dysgu ar y We yn wahanol, ond mae’r plant yn mwynhau achos efo Celf ti’n gorfod treulio amser yn gosod pethe fyny, ac mae angen pacio ar ddiwedd gwers.

Ond gartref, maen nhw wrth eu boddau yn gallu gadael y paent ac ati allan, a phigo fe lan pan maen nhw’n teimlo’r awen.

Beth ydych chi’n ei wneud i gadw’n heini?

Crwydro llwybrau lleol. Mae ganddo ni’r môr ar stepen drws, ac o fewn pum munud, ti’n gallu bod lan yn y mynydde.

Felly ni’n eitha’ ffodus. Dw i’n licio mynd â chamera a llyfr braslunio gyda fi.

Beth sy’n eich gwylltio?

Baw ci!

Rydech chi’n beio pobol ddŵad, ond wedyn pan mae hi’n gyfnod clo, chi’n methu beio neb ond pobol leol.

Pwy fyddech chi’n gwahodd i’ch pryd bwyd delfrydol?

Joanna Lumley, dw i’n edmygu hi yn fawr.

A fysen i’n licio cael sgwrs gyda Kyffin Williams.

A Mam a Dad – dw i ddim wedi eu gweld nhw ers oesoedd!

Gan bwy gawsoch chi sws gorau eich bywyd?

Ifer y gŵr!

Wnaethon ni gyfarfod ar drip ysgol Celf ym Mharis, ac ailgyfarfod deng mlynedd wedyn.

Beth yw eich hoff ddywediad?

Mae pont i groesi pob anhawster.

Beth yw eich hoff gân? 

‘Adra’ gan Gwyneth Glyn.

Oes ganddo chi hoff artist?

Dw i’n hoff iawn o Gwen John achos bod ei gwaith hi’n deimladwy.

Beth yw’r parti gorau i chi fod ynddo?

Deffinet parti lawr y Bae [yng Nghaerdydd] pan oedden nhw yn sefydlu’r Cynulliad.

Beth yw eich hoff wyliau?

Ryden ni wedi bod yn mynd i aros mewn cabannau pren yn ardal Whitby yn Swydd Efrog gyda theulu.

Beth yw eich hoff ddiod? 

Paned o de.

Beth yw eich hoff air?

Aelwyd.

Beth yw’r llyfrau difyrraf i chi eu darllen?

Rydw i’n hoff iawn o hen hen lyfrau.

Mae gen i gasgliad o hen lyfrau natur. Mae gen i bentwr o rai Tro Trwy’r Wig – Cyfres Llanarmon o Lyfrau Natur gan Richard Morgan, a gafodd eu cyhoeddi yn 1906.

Dw i’n hoffi’r dyluniadau, a dw i’n hoffi pori drwy’r hen Gymraeg – mae o’n mynd a ti nôl i ryw hen amser sydd ddim yn bodoli rhagor. Amser eitha’ hudol.