Yn adnabyddus ymysg caredigion yr iaith am ei angerdd tros y Gymraeg, yn ei amser sbâr mae Cefin Campbell yn cadw defaid, ac yn gobeithio dod yn Aelod o’r Senedd eleni.

Ers 2012 mae wedi cynrychioli ward Llanfihangel Aberbythych ar Gyngor Sir Gaerfyrddin, a bu yn aelod o’r cabinet sy’n rheoli’r cyngor ers pedair blynedd.

Mae ganddo gyfrifoldeb tros Faterion Gwledig a Chymunedau, ac yn ddiweddar mae wedi ennyn sylw am ei waith ar dai haf a Chofeb Picton – cofeb ddadleuol yng Nghaerfyrddin.