Mae pob comisiwn gan gwmni Hen Fenyw Fach wedi ei deilwra’n arbennig i’r sawl sy’n cael y llun…

‘Hen Fenyw Fach Cydweli yn gwerthu nicyrs pinc.’ Er nad yw’r llinell yma cweit mor swynol â’r hwiangerdd enwog am y fenyw fach a oedd yn gwerthu losin du, mae hi wedi tanio gyrfa un darlunydd o Gaerdydd.