Bydd pedair llywodraeth y Deyrnas Unedig yn parhau â’r strategaeth o frechu yn ôl oedran, yn hytrach na thargedu pobol mewn swyddi penodol.

Pobol 40-49 oed fydd y nesaf i dderbyn y brechlyn, ar ôl i gynghorwyr y Llywodraeth ddod i’r casgliad mai brechu yn nhrefn oedran yw’r ffordd gyflymaf o hyd o leihau nifer y marwolaethau.

Roedd y JCVI, sef y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio, wedi ystyried a ddylid brechu grwpiau fel athrawon a swyddogion yr heddlu nesaf, ond daethpwyd i’r casgliad bod oedran yn parhau i fod yn ffactor pwysig mewn salwch difrifol.

Dywedodd yr Athro Wei Shen Lim, cadeirydd Pwyllgor Covid-19 y JCVI, wrth gynhadledd i’r wasg fod oedran “yn parhau i fod y ffactor amlycaf – mae’n dal i fod yn un o achosion pwysicaf clefyd difrifol, hyd yn oed yn y rhai 50 oed ac is”.

Mae’r JCVI o’r farn mai hyd yn oed o fewn gwahanol alwedigaethau, mai pobl hŷn sydd mewn mwy o berygl na’r rhai sy’n iau.

Dywedodd Dr Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol Cymru, wrth gynhadledd i’r wasg Llywodraeth Cymru heddiw (dydd Gwener, Chwefror 26): “Dw i, ynghyd â thri phrif swyddog meddygol arall y Deyrnas Unedig, yn cefnogi cyngor y JCVI ac mae pedair llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cytuno i’w weithredu ar sail y cyngor hwn,” meddai.

“Mae hyn yn golygu bod rhaglenni brechu’r Deyrnas Unedig yn parhau i fod yn gyson gan ein bod i gyd yn gweithio tuag at un nod.

“Dyma’r dull symlaf, cyflymaf a thegaf. Ac mae’n golygu y gallwn aros ar y trywydd iawn i gyrraedd ein targedau brechu uchelgeisiol.”

Dywedodd fod y dadleuon tros roi’r flaenoriaeth i athrawon a phlismyn wedi eu gwyntyllu.

“Roedd y JCVI yn ystyried hyn – fodd bynnag, canfu nad oedd digon o dystiolaeth i osod galwedigaethau penodol ar wahân i’r boblogaeth gyffredinol.

“Penderfynwyd hefyd y byddai cymhlethdod darparu’r dull hwn yn arafu cyflymder cyflwyno’r brechiad,” ychwanegodd.

Galw am “ddiogelu staff rheng flaen”

Fodd bynnag, dywedodd Laura Doel, cyfarwyddwr undeb athrawon NAHT Cymru, er gwaethaf cymhlethdod o’r fath, nad oedd yn rheswm digon da dros beidio â blaenoriaethu anghenion gweithwyr rheng flaen.

“Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd safbwynt gwahanol… dylid diogelu staff rheng flaen nawr bod y rhai sydd yn y perygl mwyaf eisoes wedi cael eu brechu,” meddai.

“Mae’n rhaid iddyn nhw weithio gyda grwpiau mawr o bobol sy’n cario o leiaf gymaint o botensial ar gyfer haint ag unrhyw un arall.

“Mae’r grwpiau hynny’n aml yn gweithio mewn mannau cyfyngedig a heb eu hawyru am gyfnodau hir gyda dim ond cyfarpar diogelwch personol elfennol.”

Covid-19: “Pethau’n gwella” meddai Prif Weithredwr y Gwasanaeth Iechyd

Huw Bebb

Ond Dr Andrew Goodall yn rhybuddio fod niferoedd y cleifion mewn ysbytai yn dal i fod yn “rhy uchel”