Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod nhw’n disgwyl y bydd etholiad y Senedd yn cael ei gynnal ym mis Mai, fel y trefnwyd.

Ond mae llawer ym Mae Caerdydd yn teimlo na ddylai fynd rhagddo tan fod sefyllfa’r argyfwng yn gwella.

Ddechrau fis Chwefror pleidleisiodd y mwyafrif o Aelodau o blaid y gallu i ohirio’r etholiad am hyd at chwe mis.

Wrth gyhoeddi canlyniad adolygiad cyntaf o’r paratoadau ar gyfer etholiad y Senedd 2021, dywedodd Julie James AoS, Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, y bydd y Prif Weinidog yn penderfynu gohirio neu beidio erbyn Mawrth 24.

“Yn gryno, canlyniad yr adolygiad yw ein bod yn parhau’n ymrwymedig i’n bwriad presennol o gynnal yr etholiad ar 6 Mai,” meddai Julie James.

“Gan fod y sefyllfa iechyd cyhoeddus yn gwella’n raddol, nid yw’n rhesymol disgwyl i etholiad y Senedd gael ei ohirio ar hyn o bryd. Rhaid i bawb baratoi felly’n seiliedig ar hynny.”

Mae hefyd disgwyl i etholiadau cyngor sir ac etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throseddu fynd yn eu blaen.

“Bydd yr adolygiad statudol nesaf o’r paratoadau ar gyfer 2021 yn cael ei gwblhau erbyn 12 Mawrth, a byddaf yn gosod datganiad pellach cyn gynted ag y bydd yn rhesymol ymarferol ar ôl hynny,” ychwanegodd Julie James.

“Bydd y Prif Weinidog hefyd yn gosod datganiad, yn unol ag adran 6 o’r Bil, ar 24 Mawrth, neu cyn hynny, yn nodi a yw’n bwriadu arfer ei bŵer o dan yr adran honno i gynnig gohirio’r etholiad.”

Dim hawl ymgyrchu 

Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn dal i ddweud nad yw dosbarthu taflenni ac ymgyrchu o ddrws i ddrws i yn “esgus rhesymol” i adael cartref.

“Mae’n bwysig nodi nad yw ein safbwynt ar ymgyrchu wedi newid, gan nad oes digon o le i addasu’r cyfyngiadau presennol ar hyn o bryd.

“Mae hynny’n golygu nad yw gadael cartref i ddosbarthu taflenni ac ymgyrchu o ddrws i ddrws yn esgus rhesymol, er gwaethaf y ffaith ei bod yn esgus rhesymol gadael cartref at ddibenion gwaith hanfodol sy’n gysylltiedig â’r etholiadau.”

Etholiad mis Mai: y Senedd bellach yn gallu ei ohirio

Byddai angen i ddau draean o aelodau gefnogi newid dyddiad