Mae gan Senedd Cymru bellach y gallu i ohirio etholiad mis Mai am hyd at chwe mis.

Brynhawn ddoe mi bleidleisiodd mwyafrif o Aelodau o blaid ‘Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws)’, ac yn sgil hyn mi allai’r etholiad gael ei ohirio hyd at Dachwedd 5.

Mae disgwyl i etholiad y Senedd gael ei gynnal ar Fai 6, ond mae llawer ym Mae Caerdydd yn teimlo na ddylai fynd rhagddo tan fod sefyllfa’r argyfwng yn gwella.

“Rwy’n falch bod Aelodau o’r Senedd wedi cymeradwyo’r Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws) fel y gall ddod yn ddeddf,” meddai Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol.

“O ystyried natur anwadal y feirws, mae tipyn o ansicrwydd beth fydd y sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd erbyn mis Mai.

“Dyna pam rydym wedi gweithredu nawr i ymateb i’r risg bosibl i’r etholiad sy’n deillio o’r pandemig.”

Y Bil

Roedd y Ceidwadwyr a Phlaid Diddymu’r Senedd yn gwrthwynebu’r mesur. Pleidleisiodd 36 o’i blaid, pump yn erbyn, ac mi wnaeth naw person atal eu pleidlais.

Mae’r Bil hefyd yn galluogi pobol sydd yn hunan-ynysu i enwebu unigolyn arall i bleidleisio ar eu rhan.

Bydd angen i ddau draean o Aelodau o’r Senedd gefnogi gohiriad os fydd y Prif Weinidog yn galw am hynny.

Mis Mai amdani?

Mae Llywodraeth San Steffan wedi cadarnhau y bydd etholiadau Comisiynwyr Heddlu  yn mynd rhagddynt yng Nghymru a Lloegr ar Fai 6.

Bydd etholiadau lleol ac etholiadau Senedd yr Alban hefyd yn mynd rhagddynt ar y diwrnod hwnnw.

Mae hyn i gyd yn cynyddu’r pwysau ar y Llywodraeth i gadw at ddyddiad gwreiddiol etholiad Senedd Cymru.

Papur pleidleisio'n cael ei roi yn y blwch

Ystyried deddf a fyddai’n galluogi etholiadau Senedd Cymru i gael eu cynnal dros sawl diwrnod

Ond y Llywodraeth yn dweud mai’r bwriad o hyd ydi cynnal yr etholiad ar Fai 6