Mae dyn o Gaint wedi pledio’n ddieuog i gyhuddiad o anfon pecyn amheus i ffatri frechiadau yn Wrecsam.

Yn dilyn y digwyddiad bu’n rhaid i’r holl staff adael safle Wockhardt, sy’n creu cynnyrch ar gyfer brechlynnau AstraZeneca Rhydychen, tra bod ymchwiliad i’r pecyn yn cael ei gynnal.

Plediodd Anthony Collins, 53, yn ddieuog yn Llys y Goron Maidstone i gyhuddiad o anfon y pecyn amheus i’r safle cynhyrchu yng ngogledd Cymru fis Ionawr.

Mae wedi ei gyhuddo o anfon parsel yn y post gyda’r bwriad o wneud i bobol gredu ei fod yn debygol o ffrwydro neu fynd ar dân.

Ond doedd y parsel ddim yn cynnwys ffrwydron, yn ôl yr heddlu.

Yn dilyn y gwrandawiad llys brynhawn dydd Gwener, Chwefror 26, mae Anthony Collins wedi ei gadw yn y ddalfa tan y gwrandawiad nesaf yn ddiweddarach eleni.

Arestio dyn ar ôl i becyn amheus gael ei anfon i safle brechlynnau Covid-19 yn Wrecsam

Heddlu Caint wedi cyhoeddi eu bod wedi arestio dyn ar amheuaeth o anfon y pecyn

Ailagor safle gweithgynhyrchu brechlyn yn Wrecsam yn dilyn ymchwiliad i becyn amheus

“Gallwn nawr gadarnhau bod y pecyn wedi’i wneud yn ddiogel a bod staff bellach yn cael dychwelyd i’r cyfleuster.”