Mae cyn-Brif Weinidog yr Alban, Alex Salmond, wedi cyhuddo ei olynydd, Nicola Sturgeon, o fethu ag arwain y wlad.

Yn ei ddatganiad agoriadol i bwyllgor yn senedd Holyrood sy’n craffu ar ymchwiliad Llywodraeth yr Alban i honiadau o droseddau rhyw a wnaed yn ei erbyn, cyhuddodd ei olynydd o ddefnyddio cynhadledd i’r wasg Covid-19 i “gwestiynu canlyniad rheithgor i bob pwrpas”.

Dywedodd Alex Salmond wrth Aelodau o Senedd yr Alban fod arweinyddiaeth yr Alban wedi methu, ac nad yw gweithredoedd ac egwyddorion Llywodraeth yr Alban yn agored, yn atebol nac yn dryloyw.

“Cefais fy syfrdanu ddydd Mercher pan ddefnyddiodd Prif Weinidog yr Alban – Prif Weinidog yr Alban – gynhadledd i’r wasg Covid i gwestiynu canlyniadau rheithgor,” meddai.

“Mae’r llywodraeth yma wedi gweithredu yn anghyfreithlon ond rywsut does neb ar fai.

“Nid yw’r Alban wedi methu, mae ei harweinyddiaeth wedi methu. Pwrpas yr ymchwiliad hwn yw i bob un ohonom helpu i gywiro hyn.

“Nid yw’r ymchwiliad hwn yn ymwneud â mi… yr wyf wedi cael fy nghanfod yn ddieuog o’r holl gyhuddiadau troseddol gan reithgor yn y llys uchaf.

“Mae’r ymchwiliad hwn yn ymwneud â gweithredoedd pobl eraill, a’u hymchwiliad nhw i ymddygiad gweinidogion, yr ysgrifennydd parhaol, gweision sifil a chynghorwyr arbennig.”

‘Llywodraeth wedi’i llygru gan ragfarn’

Gwrthododd Alex Salmond alwadau gan Nicola Sturgeon y dylai ddarparu tystiolaeth i gefnogi ei honiadau o gynllwyn.

Pwysleisiodd mai Llywodraeth yr Alban a oedd wedi’i “chanfod i fod wedi gweithredu’n anghyfreithlon, yn annheg ac wedi’i llygru gan ragfarn”.

Dywedodd fod y ddwy flynedd a hanner ddiwethaf yn ystod yr ymchwiliad wedi bod yn “hunllef”, ond nad oedd modd symud ymlaen, nes bod “y broses o wneud penderfyniadau sy’n tanseilio’r system lywodraethu yn yr Alban yn cael sylw”.

Cafodd Alex Salmond iawndal o £512,250 ar ôl cael ei ganfod yn ddieuog o 13 cyhuddiad o ymosodiad rhywiol

Dywedodd bryd hynny bod y cyhuddiadau yn ei erbyn wedi eu “ffugio am resymau gwleidyddol”.

Mae Nicola Sturgeon yn mynnu nad oes unrhyw dystiolaeth bod cynllwyn yn erbyn Alex Salmond ac mae hi wedi gwadu dweud celwydd wrth y Senedd.

Mae disgwyl i’r Prif Weinidog presennol ymddangos gerbron y pwyllgor ddydd Mercher nesaf.

Disgwyl i Alex Salmond roi tystiolaeth o flaen panel yn Holyrood

Y panel yn ymchwilio i’r modd yr oedd Llywodraeth yr Alban wedi ymchwilio i honiadau o aflonyddu rhywiol yn erbyn y cyn-brif weinidog
Alex Salmond a Nicola Sturgeon gyda dogfennau lansio'r 'Sgwrs Genedlaethol'

Ffrae rhwng Alex Salmond a Nicola Sturgeon yn dwysáu

Y cyn-brif weinidog yn cyhuddo’i olynydd o gamarwain Senedd yr Alban

Alex Salmond wedi’i gael yn ddieuog o geisio treisio ac ymosodiadau rhyw

Roedd wedi gwadu’r holl gyhuddiadau yn ei erbyn