Cafodd chwaraewr tîm pêl-droed Caernarfon Town, Nathan Craig ei fagu dafliad carreg i ffwrdd o gae’r Oval yn y dref, ac mae wedi chwarae i Everton a thîm dan 21 Cymru.

Mae wedi treulio cyfnodau yn chwarae i’r Cofis, gan wneud ei ymddangosiad cyntaf yn 2012, cyn symud i Torquay United a threulio cyfnod ar fenthyg gyda Dorchester Town.

Yna, dychwelodd i’r clwb yn 2014 ac mae wedi bod yn rhan allweddol o ymdrech y Cofis i esgyn i’r Uwch Gynghrair, dros y blynyddoedd diwethaf.

Er hynny, gadawodd i chwilio am sialens newydd y llynedd gyda’r Fflint, cyn ail-ymuno gyda’i glwb genedigol fis yma.

Mae hefyd wedi sefydlu ei fusnes ei hun, er mwyn cynnig hyfforddiant pêl-droed hwyliog i blant Caernarfon.

“Gobeithio bod gen ti passport!”

Pêl-droed oedd bopeth i Nathan wrth dyfu fyny yng Nghaernarfon.

Tra yn chwarae i dîm ieuenctid Segonitum Rovers mewn twrnament ym Mhorthmadog, fe ddaliodd lygaid sgowt o Everton, ac yntau ddim ond yn naw oed.

“Dw i’n cofio’r sgowt yn dod at fy rhieni ar ôl y gêm,” meddai Nathan wrth golwg360.

“A dyma fo’n dweud: ‘Rydan ni eisiau mynd a Nathan am dreial i Everton, ond mae o’n rhy ifanc a fydd rhai iddo fo ddisgwyl tan mae o’n ddeuddeg.”

Ar ôl tair blynedd hir o ddisgwyl, ac er fod timau mawr eraill fel Manchester City ac Manchester United wedi dangos diddordeb ynddo, ymunodd Nathan gydag Everton yn 2003.

“Roedd o’n unbelievable,” meddai ddisgrifio’r profiad.

“Doeddwn i erioed wedi bod abroad o’r blaen, ac un o’r pethau cyntaf ddywedon nhw oedd: ‘Reit rydan ni’n mynd i Germany wythnos nesaf, gobeithio bod genti passport!

“Adeg yna ges i flas o be’ mae chwarae ffwtbol ar y lefel uchaf am, a galla i ddim disgrifio gymaint o brofiadau gwerthfawr ges i.”

Chwarae i Everton… a gadael

Eglurodd mai uchafbwynt ei yrfa gydag Everton oedd chwarae i dîm cyntaf David Moyes, a hynny yng Nghynghrair yr Ewropa yn 2009.

“Doeddwn i heb ddweud wrth fy rhieni,” meddai, “doeddwn i ddim yn meddwl byswn i’n cael chwarae!

“Felly, beth wnes i yn sydyn yn y changing rooms oedd newid, rhoi’r ffôn lawr fy hosan a mynd i’r toliet i tecstio Dad.

“Ond hefo’r amser fysa wedi cymryd iddo fo ddod fyny [i Lerpwl], fysa’r gêm wedi bod hanner ffordd drwyddi!”

Nathan yn dod ar i Everton, 2009

Daeth ei gontract gydag Everton i ben dros dymor yr haf yn 2011 a gadawodd y clwb yn ugain oed.

“Roeddwn i’n gwybod fy mod i wedi rhoi 100% i mewn i hyn,” meddai, “fedrwn i ddim gwneud dim mwy, dim regrets ac weithiau, mewn bywyd, os wyt ti wedi gwneud dy orau glas, fedri di ddim gwneud dim byd.”

 

Cefnu ar y Cofis

Ar ôl dychwelyd i chwarae i’r Cofis yn 2014, cychwynnodd weithio yn Swyddog Pêl-droed yn y Gymuned yng Nghaernarfon.

Fodd bynnag, ym mis Mehefin y llynedd, fe benderfynodd adael y clwb, er mwyn chwilio am sialens newydd.

“Dyna’r penderfyniad fwyaf anodd dw i erioed wedi’i wneud,” meddai.

“Wnes i newid meddwl fi lot ond roeddwn i jest yn teimlo roeddwn i wedi gwneud saith mlynedd hefo’r clwb, pump o’r rheina yn gweithio hefyd, felly oedd bob dim jest yn Caernarfon Town.

“Roeddwn i’n meddwl: ‘Dw i angen brêc o hyn a ffocws gwahanol neu challange newydd yn fy mywyd’,” meddai.

Ymunodd gyda Chlwb pêl-droed y Fflint… ond ar ôl cwta chwe mis, gadawodd y clwb i ganolbwyntio ar ei waith, ei fusnes a’i deulu ifanc.

A chychwyn mis Chwefror, cyhoeddodd Caernarfon Town fod yr arwr lleol a’r cyn-gapten yn dychwelyd i glwb ei filltir sgwar.

“Mae Caernarfon yn amlwg yn dîm lleol i fi,” meddai Nathan.

“Wnes i adael i drio cael y challange newydd yma, a wnes i enjoio amser fi yn Fflint. Ond doedd o ddim yr un peth a chwarae hefo’r Cofis a bod o flaen y Cofi Armi.

“Felly dw i reit hapus fy mod i wedi gwneud y penderfyniad i ddod yn ôl.”

Hyfforddwr prysur

Yn ystod y cyfnod clo, wnaeth Nathan gychwyn ei fusnes hyfforddi pêl-droed i blant, yn cynnig hyfforddiant i dros 200 ohonynt yn wythnosol.

“Nath y guidelines newid lle oedda chdi’n cael gwneud one to one sessions a grwpiau o wyth, felly pan wnes i gyhoeddi hynny dros yr haf wnaeth 120 slot fynd mewn llai nag twenty four hours!” meddai.

“Roedd hi’n really hectic ond roedd o’n dangos bod yna ofyn amdano fo, a dyna dw i’n drio gwneud, rhoi’r profiadau dw i wedi cael dros y blynyddoedd yn ôl i’r plant yma.

“Dydi o ddim yn gorfod bod yn serious chwaith.

“Main ethos y busnes ydi i gynnig pêl-droed i blant mewn environment saff a bob tro canolbwyntio ar ochr hwyl y gêm.

“Mae’r plant yn gallu cymdeithasu, gwneud ffrindiau a chadw’n heini hefyd.”

Yn ddiweddar daeth y newyddion bod Nathan Craig wedi’i ddewis i fod yn rhan o brosiect Llwyddo’n Lleol, sy’n cefnogi pobl ifanc yng Ngwynedd a Môn i ddatblygu eu busnesau.

“Mae o’n un o’r pethau gorau dw i wedi gwneud hefo busnes fi i fod yn onest,” meddai, “mae o’n ffantastig!”

Gweld eisiau cefnogaeth y Cofi Armi

Wrth i gemau’r Uwchgynghrair JD Cymru ddychwelyd wythnos nesaf, bu Nathan yn trafod rhai o’i obeithion ar gyfer y dyfodol.

“Dw i yn edrych ymlaen at gael chwarae football eto,” meddai, “ ond be dw i’n edrych ymlaen at fwyaf ydi i gael y cefnogwyr yn ôl, dydi o ddim y run peth hebddyn nhw.

“Dw i yn meddwl bod y Cofi Army fatha’r twelfth man, maen nhw’n gallu creu gôl i chdi drwy jyst canu neu weiddi.

“Un o targets fi pan wnes i joinio Caernarfon oedd: ’dw i angen mynd a’r clwb yma i fyny i’r Welsh Prem – lle mae o i fod’.

“Gawson ni un neu ddau o stumbles ar y ffordd, but we got there in the end.

“Ond fysa fo’n neis trio sicrhau lle yn Ewrop… a fyswn i’n gallu riteirio yn hapus wedyn!”

Uwchgynghrair JD Cymru ac Uwchgynghrair Merched Cymru i gael dychwelyd

Caiff cadarnhad ynghylch dyddiadau newydd y gemau y bu’n rhaid eu haildrefnu ei gyhoeddi maes o law.