Bydd dau gwmni diodydd dialcohol o Gymru yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi drwy ddatgelu’r camau nesaf ar gyfer eu busnesau.

Gyda chymorth Cywain bydd yr Old Coach House Distillery yn lansio eu brand newydd o ddiodydd botanegol dialcohol, a bydd gwefan Sober Drinks yn rhoi’r cyfle i gwsmeriaid archebu eu coctels dialcohol o gysur eu cartrefi eu hunain.

Pennod newydd

Mae Old Coach House Distillery yn arbenigo mewn diodydd tebyg i jin heb flasau, lliwiau na siwgr ychwanegol sy’n gallu cael eu cymysgu â thonig i greu diod nodedig, sydd eto’n ysgafn ac wedi lansio eu brand STILLERSÒ. i nodi Dydd Gŵyl Dewi.

Yn 2019, sefydlodd y biocemegydd planhigion David O’Brien a’i wraig Farhana O’Brien, sy’n wyddonydd bwyd, yr hyn y tybient oedd yn ddistyllfa ddialcohol gyntaf y byd gyda’r nod o’ch helpu i yfed yn fwy ystyriol.

“Mae’r ddau ohonom wrth ein bodd yn teithio, ac roedd gyda ni ddyddiadur taith wrth law wrth greu ein diodydd. Mae pob un o’n cynhyrchion wedi’i ysbrydoli gan wahanol ddiwylliannau o bedwar ban byd,” eglurodd David O’Brien.

Hwyl a blas – ond heb alcohol

Profi y gallwch gael hwyl a blas – ond heb alcohol – yw bwriad Sober Drinks.

Wedi iddo benderfynu rhoi’r gorau i yfed alcohol, daeth sylfaenydd y cwmni o Gasnewydd, Richard Pollentine, ar draws y syniad o greu coctels dialcohol pan oedd ar wyliau.

Er i’r pandemig darfu yn sylweddol ar gynlluniau’r cwmni i ehangu mae Richard Pollentine bellach yn cydnabod ei fod yn falch o fod wedi cael y cyfle i “ail-werthuso ac ail-wewithio’r brand er mwyn sicrhau ein bod ni’n barod erbyn bod y byd yn disgyn i’w le unwaith eto.”

“Nod Sober yw cynnig hwyl i bawb; mae’n oll-gynhwysol. Does dim ots os nad yw rhywun eisiau yfed alcohol, y nod yw sicrhau bod person yn cael hwyl, yfed neu beidio.

“Mae ymdeimlad hafaidd a bywiog i’n diodydd, sy’n gwneud i chi deimlo fel petaech ar draeth yn y Caribî!”

Mae’r ddau gwmni wedi derbyn cefnogaeth gan Cywain, prosiect Menter a Busnes sy’n cefnogi datblygiad busnesau, er mwyn datblygu ymhellach.