Mae mechnïaeth rheolwr Cymru, Ryan Giggs, wedi cael ei ymestyn ar ôl iddo gael ei arestio ar amheuaeth o ymosod.

Cafodd Giggs, 47, ei arestio ym mis Tachwedd ar ôl i’r heddlu gael ei galw i’w gyfeiriad yn dilyn adroddiad o ddigwyddiad yn ymwneud â’i gariad, Kate Greville, 36.

Mewn datganiad ddydd Gwener, dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Manceinion Fwyaf: “Mae mechnïaeth dyn 46 oed (sydd bellach yn 47 oed) a arestiwyd ar amheuaeth o ymosodiad cyffredin adran 39 ac ymosodiad adran 47 ym mis Tachwedd 2020 wedi’i ymestyn tan ddydd Sadwrn Mai 1.

“Mae hyn yn ymwneud â digwyddiad a adroddwyd i’r heddlu am 10.05pm ddydd Sul 1 Tachwedd 2020, ar Chatsworth Road, Worsley.

“Mae ffeil yn parhau i fod gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron a disgwylir penderfyniad maes o law.”

Gwelwyd yr heddlu wedi parcio y tu allan i gartref Giggs yn Worsley, Manceinion Fwyaf, ym mis Tachwedd yn dilyn adroddiadau am yr aflonyddwch.

Dywedodd datganiad a ryddhawyd ar ran Giggs ar y pryd: “Mae Mr Giggs yn gwadu pob honiad o ymosod a wnaed yn ei erbyn.

“Mae’n cydweithredu â’r heddlu a bydd yn parhau i’w cynorthwyo gyda’u hymchwiliadau parhaus.”

Collodd Giggs gemau Cynghrair Cenhedloedd Cymru yn dilyn ei arestiad, a rhoddwyd cyfrifoldeb am y tim i Robert Page dros dro.