Mae ymgyrchwyr wedi beirniadu penderfyniad amlasiantaethol i beidio ag adolygu’r amgylchiadau arweiniodd at ŵr yn lladd ei wraig yn ystod y cyfyngiadau clo cyntaf.
Cafodd Ruth Williams, 67, ei thagu i farwolaeth gan Anthony Williams, 70, yn eu cartref yng Nghwmbrân ar Fawrth 28 y llynedd – cafodd Anthony Williams ei ddedfrydu i bum mlynedd yn y carchar yr wythnos ddiwethaf.
Cafwyd Mr Williams yn ddieuog o lofruddiaeth, ar ôl pledio’n euog i ddynladdiad oherwydd cyfrifoldeb lleiedig, gyda barnwr yr achos yn dweud bod iselder a phryder wedi effeithio’n ddifrifol ar gyflwr meddyliol Williams ac nad oedd tystiolaeth o unrhyw drais domestig blaenorol.
Dywedodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen na fyddai’n lansio adolygiad dynladdiad domestig, ac na fyddai sefydliadau partner yn gwneud hynny chwaith, oherwydd “ymgysylltiad cyfyngedig iawn y cwpl â gwasanaethau, ac absenoldeb unrhyw hanes o gam-drin domestig”.
Mewn datganiad, dywedodd fod adolygiad dynladdiad domestig – adolygiad i ystyried a all unrhyw beth am achos o ladd helpu i atal trais domestig yn y dyfodol a gwella ymatebion gwasanaeth i ddioddefwyr – yn “annhebygol” o “ddatgelu dysgu amlasiantaethol neu gamau i’w datblygu”.
“Os bu dynladdiad domestig, dylid cynnal adolygiad”
Ond mae’r penderfyniad wedi cael ei feirniadu gan bobl sydd â phrofiad o broses adolygiad dynladdiad domestig, gan gynnwys yr AS Llafur, Harriet Harman, a ddywedodd y bydd yn ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cartref Priti Patel yn ogystal â’r cyngor.
Dywedodd Ms Harman, a wnaeth waith ar Ddeddf Trais yn y Cartref, Troseddu a Dioddefwyr 2004 a arweinidodd at sefydlu adolygiad dynladdiad domestig: “Os bu dynladdiad domestig, dylid cynnal adolygiad.
“Mae’n bwysig iawn edrych ar yr amgylchiadau, ac a oedd tystiolaeth … o rheolaeth drwy orfodaeth neu sefyllfa o gam-drin gartref.
“Dydyn ni ddim yn gwybod hynny nes bod adolygiad dynladdiad domestig yn gwneud ei waith. Dyna pam mae angen iddo ddigwydd.”
Dywedodd Frank Mullane – cafodd chwaer a nai Mr Mullane eu llofruddio yn 2003, gan ysgogi ymgyrch i sicrhau bod adolygiad dynladdiad domestig yn dod yn gyfraith – fod y penderfyniad amlasiantaethol yn ei “gythruddo” ac mae yntau hefyd wedi ysgrifennu at Ms Patel.
“Ni allwn ddweud nad oes dim i’w ddysgu nes i ni edrych”
Cyfeiriodd Mr Mullane, sydd wedi sicrhau ansawdd dros 800 o adolygiadau dynladdiad domestig, at ganllawiau statudol sy’n nodi y dylai adolygiadau dynladdiad domestig “holi pam nad oedd fawr ddim cyswllt ag asiantaethau”.
Dywedodd: “Ni allwn ddweud nad oes dim i’w ddysgu nes i ni edrych.
“Nid dysgu amlasiantaethol yn unig yw hyn, mae hyn am leoli’r adolygiad yn y gymuned, lle mae dioddefwyr cam-drin domestig yn mynd gyntaf i geisio cymorth. Mae angen i ni roi cyngor, gwybodaeth, gwybodaeth ac atebion yn y gymuned.
“Dydw i ddim yn gwybod a ddioddefodd Mrs Williams gam-drin domestig yn y cyfnod cyn ei marwolaeth, ond rwy’n gwybod y dylid cynnal adolygiad dynladdiad domestig. Mae’r meini prawf wedi’u bodloni.”
Dywedodd Jane Monckton Smith, troseddegydd sy’n arbenigo mewn dynladdiad domestig, fod y penderfyniad amlasiantaethol yn “warthus”.
“Mewn treial, y cyfan rydych chi’n ei glywed mewn gwirionedd yw safbwynt y lladdwr ar bopeth, felly dydych chi ddim yn cael y cefndir,” meddai.
“Yr unig ffordd rydyn ni byth yn mynd i ddysgu sut y digwyddodd y dynladdiad hwn yw gwybod beth arweiniodd ato, ac ni fydd hynny’n dod allan mewn achos llys. Yr unig ffordd y bydd hynny’n dod allan yw mewn adolygiad dynladdiad domestig.
“Os nad ydyn ni’n dysgu, dydyn ni ddim yn mynd i atal y dynladdiadau hyn rhag digwydd…”
Dywedodd Ms Monckton Smith, cyn-heddwas sydd bellach yn athro diogelu’r cyhoedd ym Mhrifysgol Swydd Gaerloyw, fod ei hymchwil i ddynladdiadau domestig wedi canfod bod “cefndir i ddod o hyd iddo bob amser”.
“Jyst oherwydd na ddaeth hynny allan mewn achos llys… nid yw hynny’n fy synnu o gwbl,” meddai.
Ymateb yr asiantaethau
Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Diogelu Oedolion Gwent a Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Torfaen fod manylion yr achos a gwybodaeth amlasiantaethol ychwanegol wedi cael eu “hystyried yn drylwyr” ganddynt rhwng mis Mai a mis Awst 2020, chwe mis cyn i achos llys Mr Williams ddechrau yn gynharach y mis hwn.
Dywedasant fod asiantaethau megis Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Heddlu Gwent, ac arweinwyr awdurdodau lleol wedi dod i’r casgliad “oherwydd ymgysylltiad cyfyngedig iawn y cwpl â gwasanaethau, ac absenoldeb unrhyw hanes o gam-drin domestig, na fyddai adolygiad yn cael ei gynnal gan ei bod yn annhebygol y byddai’n datgelu dysgu amlasiantaethol neu gamau i’w datblygu”.
Ychwanegodd y llefarydd: “Mae cam-drin domestig yn parhau i fod yn flaenoriaeth i bob darparwr gwasanaeth yng Ngwent, a byddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i amddiffyn a sicrhau pobl sydd mewn perygl o niwed.”