Mae pôl piniwn Gŵyl Ddewi gan Wales Online yn awgrymu y bydd y Blaid Lafur yn colli pum sedd yn yr etholiad fis Mai.

Mae hyn i’r gwrthwyneb i bôl piniwn gan y BBC Cymru yn awgrymu cryn gefnogaeth i’r Blaid Lafur gan ddisgwyl iddyn nhw gipio 30 o seddi ac aros mewn grym yn y Senedd yn dilyn yr etholiad.

Yn ôl pôl piniwn Wales Online, Llafur Cymru fyddai’r blaid fwyaf o hyd ond heb ddigon i gael rheolaeth o’r Senedd.

Golyga hyn efallai bydd rhaid i’r Prif Weinidog Mark Drakeford drafod â phleidiau eraill os yw am lywodraethu. Gan nad yw’r Democratiaid Rhyddfrydol yn debygol o fod â digon o seddi efallai mai ei unig ddewis yw cydweithio â Phlaid Cymru.

Mae pôl Wales Online yn rhagweld y bydd Plaid Cymru (+3) a’r Ceidwadwyr (+4) yn ennill seddi, ac y bydd Plaid Diddymu’r Cynulliad yn ennill pum sedd ym Mae Caerdydd.

Y newid o’r seddi enillwyd yn 2016

  • Llafur 24 (-5 o’r hyn a enillwyd ganddynt yn 2016): 21 sedd etholaethol, tair rhanbarthol
  • Ceidwadwyr 16 (+5 o’r hyn a enillwyd ganddynt yn 2016): 10 etholaeth, chwe rhanbarthol
  • Plaid Cymru: 14 sedd (+2 o’r hyn a enillwyd ganddynt yn 2016), wyth etholaeth, chwe rhanbarthol
  • Diddymu’r Cynulliad: pum sedd ranbarthol
  • Democratiaid Rhyddfrydol: Un sedd

Dyma fyddai’r perfformiad gorau erioed gan y Ceidwadwyr Cymreig – gan guro eu 14 sedd yn 2011.

Yn ôl yr arbenigwr gwleidyddol yr Athro Roger Awan-Scully ei fod yn disgwyl “cystadleuaeth agos, dair ffordd i reoli’r Senedd.”

“Gyda dim ond pum pwynt yn gwahanu’r tair plaid uchaf ar bleidlais y rhestr ranbarthol, mae popeth yn y fantol,” meddai wrth Wales Online.

“Efallai mai nodwedd fwyaf trawiadol y bleidlais, serch hynny, yw sgôr uchel Plaid Diddymu’r Cynulliad. Er gwaethaf eu diffyg trefn a phroffil, mae’n ymddangos bod eu henw yn atyniad i rai o etholwyr Cymru ac yn debygol o yrru’r blaid i’r union sefydliad y maent am gael gwared arno.”

Etholaethau a allai newid dwylo:

  • Llanelli – Llafur i Blaid Cymru
  • Blaenau Gwent – Llafur i Blaid Cymru
  • Bro Morgannwg – Llafur i’r Ceidwadwyr
  • Dyffryn Clwyd – Llafur i’r Ceidwadwyr
  • Gŵyr – Llafur i’r Ceidwadwyr
  • Wrecsam – Llafur i’r Ceidwadwyr

Ansicrwydd am ddyfodol y Deyrnas Unedig

Tra bod pôl piniwn Gŵyl Ddewi gan BBC Cymru yn awgrymu bod ychydig yn fwy o gefnogaeth i annibyniaeth i Gymru nag yr oedd yn yr un pôl y llynedd, mae pôl piniwn Gŵyl Ddewi gan Wales Online yn awgrymu fod gwrthwynebiad i annibyniaeth Cymru wedi gostwng i’w lefel isaf erioed.

Yn ôl pôl piniwn BBC Cymru mae 14% o blaid gadael y Deyrnas Unedig, i fyny o 11%.

Yn ôl pol piniwn Wales Online byddai hanner y bobol holwyd yn dweud y byddent yn pleidleisio Na mewn refferendwm ar y mater.

Er bod cefnogaeth i annibyniaeth yn parhau i fod ar ei uchaf, 25%, mae’r gyfran sy’n ateb “ddim yn gwybod” hefyd wedi cynyddu i 14% gan ychwanegu at yr ansicrwydd am ddyfodol y Deyrnas Unedig.

Ymhlith y rhai sy’n rhoi ateb pendant, mae 33% yn dweud y byddent yn pleidleisio Ie ar annibyniaeth i Gymru, tra bod 67% yn dweud y byddent yn pleidleisio na.

“Nid yw’n rhesymol disgwyl i etholiad y Senedd gael ei ohirio” meddai Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod nhw’n disgwyl y bydd etholiad y Senedd yn cael ei gynnal fi Mai fel y trefnwyd